RHYBUDD: Mae yna oleuadau a lluniau sydd yn fflachio yn y fideo hwn. Gall hyn effeithio ar bobl sydd gan epliepsi oleusensitif.
Mae’r artist EDM, Rightkeysonly, a’r artist iaith Gymraeg, Dei, wedi rhyddhau eu sengl gyntaf, Multilingual.
Gyda chymysgedd o eiriau Saesneg a Chymraeg, mae’r trac hwn yn ddathliad o ddiwylliant queer trwy delynegiaeth synhwyraidd a rhythmau trance-electro sy’n disodli cyfyngiadau iaith ag agosatrwydd corfforoldeb.
Daeth y fideo cerddoriaeth Multilingual ag aelodau o’r gymuned LHDT+ Gymreig at ei gilydd i ddathlu hunaniaeth cwiar drwy rêf yn ystod y dydd yn hen bentref Llantrisant.
Cefnogwyd y prosiect hwn gan Pyst, Amplifying Accessibility, Celfyddydau Anabledd Cymru, a Jamie Panton.
Ariannwyd y fideo gan gronfa fideos cerddoriaeth PYST x Lŵp.