Cartref digidol diwylliant Cymru.

Rhun yn Brif Weinidog?

No Categories Found

Beth petai Plaid Cymru yn camu allan o’r etholiad nesaf yn 2026 gyda mwy o seddau na’r Blaid Lafur? Byddai oblygiadau ymarferol llywodraethu yn fwy na heriol ac yn rhai y talai i Rhun ap Iorwerth ddechrau paratoi ar eu cyfer yn awr.

Gadewch i mi fod yn gwbl eglur. Nid oes dim yn anorfod am y peth. Bydd llawer iawn, iawn o ddŵr wedi llifo dan amryfal bontydd cyn yr etholiad nesaf ar gyfer Senedd Cymru a phwy a ŵyr beth fydd wedi newid yn y cyfamser? Yn un peth, mae’n amhosibl rhagweld beth yn union fydd cyflwr y byd ym mis Mai 2026. Cofier sut y cynhaliwyd etholiad 2003 yn y cyfnod byr hwnnw pan oedd modd i’r lliaws eu twyllo’u hunain i gredu nad oedd ymosod ar Irac yn drychineb moesol a milwrol wedi’r cyfan. Amseru a brofodd yn wyrthiol o gyfleus i Lafur Cymru. 

Ni ddylid chwaith ddiystyru gallu’r blaid honno i adfer ac i fobileiddio adnoddau sylweddol ar gyfer yr etholiad. Er gwaethaf holl nonsens cyfnod byr ond niweidiol Vaughan Gething wrth y llyw, mae yna bobl abl iawn yn parhau’n deyrngar iddi – pobl sy’n gwybod sut mae llunio negeseuon ac ymgyrchoedd effeithlon. Ar ben hynny, mae pocedi’r Blaid Lafur a’r mudiad llafur ehangach yn ddyfn, a phan mae gwir angen gallant daflu eu rhwyd yn eang er mwyn sicrhau cymorth ychwanegol. Os oes unrhyw ddarllenwyr iau yn amau hynny, mynnwch air â’r to hŷn ynglŷn â’r Welsh Mirror – argraffiad Cymreig o’r Daily Mirror a gyhoeddwyd am gyfnod wedi 1999 er mwyn cynorthwyo yn y dasg o golbio cenedlaetholwyr Cymreig ar ôl eu llwyddiant yn etholiad y flwyddyn honno.

Eto fyth, er gwaetha’r holl amodi, yn sgil ei pherfformiad cryf yn etholiad cyffredinol mis Mai a thrafferthion lu’r Blaid Lafur Gymreig, ymddengys fod posibilrwydd real y gall Plaid Cymru sicrhau mwy o bleidleisiau na Llafur yn 2026. Os felly, fe fydd Rhun ap Iorwerth yn cael ei ddyrchafu’n Brif Weinidog, un ai yn ei hawl ei hun neu, gan ddibynnu ar yr union ganlyniad, mewn rhyw fath o drefniant tebyg i’r un a geir ar hyn o bryd yng Ngweriniaeth Iwerddon. Yno, fel rhan o delerau’r glymblaid lywodraethol, cytunwyd y byddai arweinwyr y ddwy brif blaid, Fianna Fáil a Fine Gael, yn ffeirio swydd y Taoiseach – y brifweinidogaeth – hanner ffordd trwy’r tymor.

Gyda gwobr mor fawr yn ymrithio ar y gorwel, fe fyddai’n gwbl ddealladwy os yw Plaid Cymru a’i harweinydd yn teimlo ei bod yn briodol canolbwyntio eu holl egnïon o hyn ymlaen ar sicrhau canlyniad a fyddai’n gyfystyr â chwyldroad gwleidyddol. Dyn a ŵyr, mae digon o waith o’u blaenau yn hynny o beth. Nid yw’r ffaith fod Plaid Cymru wedi sicrhau canlyniad mor addawol ychydig o wythnosau’n ôl yn golygu bod yr holl broblemau trefniadaethol sydd wedi ei llethu mewn blynyddoedd diweddar wedi diflannu. Ar ben hynny, mae’r blaid ymhell bell ar ei hôl hi o ran rhai o elfennau canolog ymgyrchu gwleidyddol cyfoes. Er enghraifft, prin fod ganddi unrhyw bresenoldeb o gwbl ar TikTok, platfform a ddefnyddir yn effeithiol dros ben gan Lafur a Nigel Farage fel ei gilydd. Fe fydd y ffaith fod yr etholiad yn cael ei ymladd ar sail ffiniau etholaethol newydd a chan ddefnyddio system bleidleisio gwbl anghyfarwydd hefyd yn her sylweddol iawn. Oes, mae peth wmbreth o waith i’w wneud.

Eto i gyd, heb gymryd dim yn ganiataol, gyda bod posibilrwydd o arwain neu gyd-arwain llywodraeth am y tro cyntaf, mae hefyd yn allweddol fod Plaid Cymru – neu rywrai oddi mewn iddi – yn dechrau meddwl o ddifrif ynglŷn â sut y byddent yn ceisio llywodraethu o gael y cyfle i wneud hynny. Wedi’r cyfan, llywodraethu’n dda – neu o leiaf yn well nag y mae Llafur Cymru wedi llwyddo i’w wneud – ydi’r allwedd os yw Plaid Cymru am obeithio troi buddugoliaeth unigol yn llwyddiant mwy arhosol.

A dyma ddod â ni at graidd y mater. Mae gwleidyddion poblyddol a’u cynffonwyr yn y wasg adain dde yn ceisio ein cyflyru i feddwl bod atebion syml i bob problem – y cwbl sydd ei angen ydi gwleidyddion hefo digon o arddeliad, penderfyniad a synnwyr cyffredin. Ond y gwir amdani yw bod llywodraethu’n effeithlon yn fusnes cythreulig o anodd.

Mae llunio polisïau sy’n cael yr effeithiau a ddeisyfir yn anoddach o lawer nag y sylweddolir. Yn amlach na pheidio mae hyd yn oed polisïau sy’n ymddangos yn rhai synhwyrol yn gallu esgor ar ganlyniadau nas rhagwelwyd sy’n tanseilio’r bwriad gwreiddiol. A hyd yn oed o gael polisïau call, mae eu gweithredu yn aml yn waith llafurus a rhwystredig ar y naw gyda rhwystrau a chymhlethdodau ar bob tu.

Mae hyn yn wir hyd yn oed yn achos y gwladwriaethau mwyaf soffistigedig a llwyddiannus, megis gwledydd bychain gogledd Ewrop. O grafu dan yr wyneb yn y llefydd hyn, buan iawn y clywir am enghreifftiau lu o fethiannau polisi alaethus a drudfawr. Ond mae llywodraethu’n anos fyth yn ein cornel fach ni o’r byd, tra bydd yr her sy’n wynebu unrhyw lywodraeth sy’n cael ei harwain gan Blaid Cymru yn enfawr.

Mae capasiti gwladwriaethol (state capacity) Cymru yn isel, gyda phobl ac adnoddau’n brin. Er ei bod yn wir dweud bod yna bobl wirioneddol ardderchog – yn alluog ac yn ymrwymedig – yn rhan o’r gwasanaeth sifil Cymreig, anghyson ydi’r safon. Ar ben hynny, gydag eithriad amlwg a phwysig argyfwng Covid-19, digon diuchelgais fu’r arweinyddiaeth wleidyddol a dderbyniodd. Nid ar chwarae bach y bydd gwneud newidiadau sylweddol trwy gyfrwng corff o’r fath. Amlygiad amlwg o hyn – ac arwydd arall o ddiffyg uchelgais wleidyddol y gorffennol – yw nad oes unrhyw Brif Weinidog Cymreig wedi cymryd y cam amlwg o ddefnyddio’r Trysorlys Cymreig fel peiriant i yrru perfformiad trwy weddill y llywodraeth, sef y drefn sy’n arferol ym mron pob gwlad arall. Mae Llywodraeth Cymru’n gorff sy’n addas ar gyfer cynnal y status quo; anodd iawn ei gweld yn trawsnewid dim.

O ran Plaid Cymru ei hun, yn amlwg ddigon mae dominyddiaeth hirhoedlog y Blaid Lafur yn golygu bod gan y blaid fwy o brofiad o lunio polisïau nag o geisio’u gweithredu. Am yr un rheswm, mae diffyg profiad llywodraethol ymysg ei gwleidyddion. Prin hefyd ydi’r profiad ar lefel cynghorwyr arbennig (y SpAds bondigrybwyll) – a noder mai un o’r pethau a wnaeth fwyaf i danseilio Vaughan Gething y tu ôl i’r llenni oedd gwendidau ei dîm o gynghorwyr arbennig. A phe na bai hyn oll yn ddigon o her, bydd yn rhaid ceisio cadw’r ddysgl yn wastad rhyngddi a pha bynnag blaid arall – y Blaid Lafur, mae’n debyg – fydd yn rhan o’r glymblaid lywodraethol.

Fel y dywedais, gyda chymaint i’w wneud cyn Mai 2026, byddai’n hawdd i Blaid Cymru a’i harweinydd benderfynu disgwyl tan ar ôl hynny i feddwl o ddifrif ynglŷn â beth i’w wneud os dyrchefir Rhun ap Iorwerth yn Brif Weinidog. Ond y gwir amdani yw na all fforddio gwneud hynny. Bydd yn rhaid wrth gynllun pendant fydd yn barod i’w weithredu drannoeth yr etholiad.

Richard Wyn Jones

RHANNWCH