Cartref digidol diwylliant Cymru.

Rhowch lyfr yn anrheg

Llenyddiaeth

A am Anghenfil

Huw Aaron

£6.95, Gwasg Carreg Gwalch

A am Anghenfil, B am Bwci-bo … Y am … wel, bydd rhaid i chi ddarllen cerdd ddoniol Huw Aaron er mwyn cael yr ateb! Dyma gerdd fendigedig sy’n rhestru holl angenfilod yr wyddor (oeddech chi’n gwybod bod cymaint ohonyn nhw?), ond peidiwch â phoeni, dydyn nhw ddim yn greaduriaid cas!

Yr Hwyaden Nad oedd yn Hoffi Dŵr

Steve Small, addas. Elin Meek

£6.99, Dref Wen

Pwy glywodd erioed am hwyaden nad oedd yn hoffi dŵr? A beth am hwyaden a broga sy’n ffrindiau pennaf? Dyma’n union sydd yn y llyfr hardd hwn. Trwy’r stori a’r darluniau direidus gwelwn fod ffrindiau yn gallu helpu ei gilydd trwy’r da a’r drwg … a thrwsio’r to ar yr un pryd. Bydd y llyfr annwyl hwn yn rhoi gwên ar bob wyneb.

10 Stori o Hanes Cymru (Y Dylai Pawb eu Gwybod)

Ifan Morgan Jones

Darluniau Telor Gwyn

£9.99, Rily

Pwy oedd Gwenllian? Beth oedd wrth wraidd Streic Fawr y Penrhyn? Ble ddigwyddodd Terfysgoedd Hil 1919? Cewch yr atebion i’r cwestiynau hyn, a chymaint mwy, rhwng cloriau’r llyfr ffeithiol yma. Ynghyd â deg stori creiddiol y llyfr mae tudalennau o ffeithiau a hanesion cysylltiedig eraill. Bydd y llyfr lliwgar yma’n anrheg berffaith i unrhyw un, nid dim ond darllenwyr ifanc!

Hefyd ar gael: Y Teithwyr Amser (llyfr gweithgareddau sy’n cyd-fynd a’r gyfrol) gan Tanwen Haf, darluniau Telor Gwyn, £6.99, Rily.

Y Bachgen, Y Wahadden, Y Llwynog a’r Ceffyl

Charlie Mackesy, addas. Mererid Hopwood

£16.99, Graffeg

Dyma addasiad penigamp Mererid Hopwood o’r llyfr telynegol sydd wedi swyno darllenwyr dros y byd. Gyda’i gynghorion tyner, cysurlon, dyma lyfr fydd yn atgoffa plant ifanc a hŷn o bwysigrwydd cyfeillgarwch yng nghanol ein byd prysur a chymhleth. Os ydych chi’n chwilio am gwtsh mewn llyfr, dyma’r llyfr i chi.

Gwag y Nos

Sioned Wyn Roberts

£6.99, Atebol

Dydy bywyd dim yn hawdd yn 1867, ac os wyt ti’n dlawd ac yn y wyrcws, fel Magi Bryn Melys, mae’n uffern. Er hynny, un ddireidus yw hi, ac yn dipyn o rebel weithiau. Ar ôl i Magi ddarganfod bod cynllwyn tywyll ar waith yn y plas lle mae hi’n forwyn, mae’r cyffro’n troi a throelli’r holl ffordd i ddiwedd y nofel gofiadwy hon.

Shirley – Bywyd Byrlymus Shirley Bassey

Bethan Gwanas, darluniau Hanna Harris

Cranogwen – Bywyd Arloesol Sarah Jane Rees

Anni Llŷn, darluniau Rhiannon Parris

Gwen – Bywyd Lliwgar Gwen John

Casia Wiliam, darluniau Gwen Millward

£5.99 yr un, Llyfrau Broga

Yng ngeiriau Beyoncé, ‘Who run the world? Girls.’ Mae menywod a merched anhygoel i’w cael ledled y byd, gan gynnwys yng Nghymru. Mewn byd lle mae hawliau merched a menywod yn cael eu hanwybyddu a’u diystyru mor aml, mae’n rhaid i ni ddal ati i dynnu sylw at eu campau, a’u dathlu. Dyna wych, felly, yw cael tri llyfr newydd, deniadol a hynod ddarllenadwy, yn dathlu cyfraniad rhai ohonynt.

Y Pump

£25, Y Lolfa

  • Tim gan Elgan Rhys gyda Tomos Jones

  • Tami gan Marged Elen Wiliam gyda Ceri-Anne Gatehouse

  • Aniq gan Mared Roberts gyda Mahum Umer

  • Robyn gan Iestyn Tyne gyda Leo Drayton

  • Cat gan Megan Angharad Hunter gyda Maisie Awen

Dyma gasgliad o nofelau i bobl ifanc wedi’u cydawduro gan bobl ifanc. Mae’r nofelau’n dilyn criw o ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Llwyd wrth iddynt ddarganfod eu harallrwydd. Gyda safbwyntiau unigryw Tim, Tami, Aniq, Robyn a Cat yn ein tywys, down i adnabod realiti cymhleth bod yn berson ifanc ar yr ymylon heddiw.

Mae’r pum llyfr hefyd ar gael yn unigol am £5.99 yr un.

Mae’r llyfrau hyn a llawer mwy ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.

RHANNWCH