Rhifyn Haf 2020 O’r Pedwar Gwynt
Y gwastadedd a’r gwylltir
Merched yn ôl yn y gegin yn ystod y cyfnod cloi, nepotistiaeth yng Nghymru, Affrica yn Ewrop, a chofio Iola Gregory a’i gwely yn y gwylltir.
Mae rhifyn haf O’r Pedwar Gwynt yn agor gyda ‘Slwtsh gwraig tŷ’, ysgrif finiog gan Eluned Gramich ar yr ‘anghydraddoldeb sylweddol’ sy’n bodoli rhwng mamau a thadau o hyd. Trafodir ganddi ei phrofiad o fagu plentyn, o fod yn gaeth yn ystod y cyfnod cloi a pham fod ei chanfyddiad o amser wedi newid ers rhoi genedigaeth. Wrth i’r dyddiau o’i blaen ymestyn ‘fel paith, fel gwastadedd na ellir ei groesi’, dadleua y dylai’r gwaith domestig a wneir gan ferched ‘fod yn weladwy’ a chael ‘ei gydnabod a’i ystyried yn gyfartal â gwaith cyflogedig’.
Nepotistiaeth sydd wrth wraidd ‘ein hanallu fel diwylliant i fod yn agored i her a beirniadaeth’, yn ôl Rhianwen Daniel . Yn ei herthygl, mae hi’n craffu ar economi Cymru, ein sefydliadau gwleidyddol a’n cyrff cyhoeddus, gan gofio am wirioneddau My People Caradoc Evans. ‘Hyd nes bydd yr amharodrwydd hwn i gwestiynu yn cael ei ddiwygio,’ dadleua, ‘ni all y Cymry fod yn genedl ddemocrataidd mewn unrhyw fodd ystyrlon.’
Mewn ysgrif bersonol ac ingol, dyg Angharad Elen ei mam, Iola Gregory, i gof. Mae’r gwely lle bu’n gorwedd wrth farw, mewn llecyn yn ei chartref a arferai fod yn ‘jyngl’, yn ddechrau ar fyfyrdod sy’n ei harwain at La casa de los espíritus gan Isabel Allende: a dyma ‘[d]deffro’r enaid swrth gyda’r dychymyg’.
Beth yw hanfodion prifysgol? Fe wyddai Alwyn D Rees, yn ôl M Wynn Thomas . Ar drothwy ailagor neuadd Pantycelyn, mae’n talu teyrnged i un a weithiodd ‘mor ddiarbed i’w sefydlu, a hynny er mawr les i’r genedl gyfan’.
Caiff Ned Thomas y cyfle i deithio eto i bellafion Ewrop – o Mosco i Gibraltar – yng nghwmni Johny Pitts, awdur y llyfr taith anghyffredin, Afropean: Notes From Black Europe. Mae hon yn daith i gyfarfod â phobl dduon dinasoedd cyfarwydd, pobl sydd yn aml ‘yn crafu byw ar gyrion y gymdeithas sefydlog a chyfreithlon, mewn maestrefi neilltuedig, a’u llafur yn cadw’r canolfannau mawr i fynd’. Trafodir olion yr ymerodraethau gynt ar wledydd Ewrop ac fe gawn ein hatgoffa mai nid hanes gorffenedig yw hyn: ‘Os yw’r rheibwyr gwreiddiol wedi mynd, mae Ewrop yn dal i elwa o’r hyn a ladratwyd.’
Bu Mererid Puw Davies hefyd ar y cyfandir, yn Fenis, wrth ailddarllen nofel eiconig Thomas Mann, Der Tod in Venedig. Gan Iwan Rhys Morus rhoddir inni ogwydd yr hanesydd ar ddamcaniaeth R Gareth Wyn Jones yn ei gyfrol arloesol, Energy: The Great Driver. Ac mae Iestyn Tyne yn dathlu cyfraniad Elin ap Hywel, bardd ‘a haeddai well, ac a adawyd yn rhy hir o lawer i ganu yng nghysgodion ein llên’.
Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys llawer mwy, a’r adolygiadau a’r colofnau arferol, ynghyd â stori fer brin gan Wiliam Owen Roberts . Rhoddir y gair olaf i Jan Morris sy’n trafod pwysigrwydd pum cydymaith ffeind: ‘Caredigrwydd, Parch, Hiwmor, Symlrwydd a Gobaith’.
Tanysgrifiwch am £10 y flwyddyn yn unig i ddarllen holl erthyglau O’r Pedwar Gwynt YMA