Cartref digidol diwylliant Cymru.

Rhestr Fer Gymraeg Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021 | Welsh-language Shortlist for Wales Book of the Year 2021

Llenyddiaeth

Rhestr Fer Gymraeg 2021 | Welsh Language shortlist 2021


Gwobr Farddoniaeth – Poetry Award

Dal i Fod, Elin ap Hywel (Cyhoeddiadau Barddas)

rhwng dwy lein drên, Llŷr Gwyn Lewis (Hunan Gyhoeddedig)

Mynd, Marged Tudur (Gwasg Carreg Gwalch)

Gwobr Ffuglen – Fiction Award

Wal, Mari Emlyn (Y Lolfa)

Tu ôl i’r awyr, Megan Angharad Hunter (Y Lolfa)

Twll Bach yn y Niwl, Llio Elain Maddocks (Y Lolfa)

Gwobr Ffeithiol Greadigol – Creative Fiction Award

Ymbapuroli, Angharad Price (Gwasg Carreg Gwalch)

Darllen y Dychymyg: Creu Ystyron Newydd i Blant a Phlentyndod yn Llenyddiaeth y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, Siwan M. Rosser (Gwasg Prifysgol Cymru)

O.M.: Cofiant Syr Owen Morgan Edwards, Hazel Walford Davies (Gwasg Gomer)

Gwobr Plant a Phobl Ifanc – Children & Young People’s Award

Ble Mae Boc? Ar goll yn y chwedlau, Huw Aaron (Y Lolfa)

#Helynt, Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch)

Y Castell Siwgr, Angharad Tomos (Gwasg Carreg Gwalch)

Beirniaid y gwobrau Cymraeg eleni yw’r bardd a’r awdur Guto Dafydd; yr awdur, cyflwynydd a chyn Bardd Plant Cymru, Anni Llŷn; yr awdur, academydd a’r darlithydd Tomos Owen; a’r comedïwr a’r awdur, Esyllt Sears.

Ar ran y panel beirniadu, dywedodd Anni Llŷn: “Roedd hi wir yn fraint cael darllen cynnyrch y casgliad arbennig yma o awduron. Mae’r rhestrau byr yn ddathliad o’r meddyliau craff, treiddgar a chreadigol sydd ganddynt. Mae gan pob un o’r rhain rhywbeth o werth i’w ddweud ac maent yn gyfrolau y byddwn yn annog pawb i’w darllen. Cefais daith emosiynol yn eu cwmni, o’r torcalonnus i ryfeddu a chwerthin. Cefais fy herio a fy swyno. Cawsom drafodaethau hynod ddiddorol a bywiog wrth feirniadu. Doedd hi ddim yn hawdd dewis o blith cyhoeddiadau gwirioneddol wych ddaeth i fodolaeth yn 2020. Ond dylem i gyd ymfalchîo yng nghampau aruthrol yr awduron hyn. Llongyfarchiadau mawr iddynt.

Beirniaid y gwobrau Saesneg eleni yw’r bardd, awdur a dawnsiwr Tishani Doshi; yr athro cynradd, adolygwr a’r dylanwadwr Scott Evans; y Paralympiwr, yr aelod o Dŷ’r Arglwyddi, siaradwr cymhelliant a’r darlledwr Tanni Grey-Thompson; a’r academydd, awdur ac actifydd, a chyn-enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn (2003), Charlotte Williams.

Caiff enillwyr y gwobrau Cymraeg eu cyhoeddi mewn cyfres o ddarllediadau ar BBC Radio Cymru rhwng dydd Llun 2 a dydd Mercher 4 Awst.


Bydd cyfle i ddarllenwyr ddweud eu dweud wrth i’r teitlau ar y Rhestr Fer gystadlu am Wobr Barn y Bobl a gynhelir yn annibynnol gan ein partneriaid Wales Arts Review a Golwg360.

0.

RHANNWCH