Cartref digidol diwylliant Cymru.

Rhaglen Datblygu Proffesiynol i Awduron o Liw

Llenyddiaeth

Mae’n bleser gan Llenyddiaeth Cymru gyhoeddi bod ein Rhaglen Datblygu Proffesiynol i Awduron o Liw, y gyntaf erioed o’i math yng Nghymru, bellach ar agor i geisiadau.
Mae’n rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 5:00 pm ddydd Gwener 4 Rhagfyr 2020

Beth yw’r rhaglen?
Rhaglen newydd yw hon i gefnogi awduron o liw yng Nghymru i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol ynghyd â’u gwybodaeth am y byd llenyddiaeth a chyhoeddi.
Rydym yn awyddus i helpu awduron o liw i wireddu uchelgeisiau hirdymor fel awduron. Gallai hynny gynnwys perffeithio gwaith ar y gweill, dod o hyd i asiant, cyhoeddi gwaith, perfformio i gynulleidfa fwy o faint, arbrofi â genres newydd, neu dysgu sut i hwyluso gweithdai cymunedol yn hyderus.
Mae’r rhaglen, sy’n para blwyddyn, yn cynnwys cyllid o £2,450 i helpu awduron i sicrhau amser rhydd i ysgrifennu, mynychu sesiynau, a thalu costau teithio i ymweld â digwyddiadau. Ar ddechrau’r rhaglen, bydd yr awduron yn cael eu paru â mentoriaid i’w cefnogi yn ystod y daith. Bydd y brif raglen yn cynnwys sesiynau mentora un-i-un, gweithdai a sgyrsiau. Bydd cyfle i rwydweithio, i wneud cysylltiadau newydd, ac i feithrin perthynas ag awduron eraill. Yn ystod y flwyddyn hefyd, bydd cyfle i gyfarfod arbenigwyr o’r diwydiant llenyddiaeth a chyhoeddi yng Nghymru a thu hwnt. Nod y rhaglen yw helpu pob awdur i ddatblygu ei botensial llenyddol ei hun. Bydd lle i 12 awdur ar y rhaglen.

I bwy mae’r rhaglen hon?
Mae’r cyfle hwn yn agored i awduron o liw dros 18 oed sy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd. Gall awduron sy’n gweithio mewn amryw o ffurfiau llenyddol wneud cais. Yn ogystal â nofelau, barddoniaeth a straeon byrion, gall y ffurfiau hyn gynnwys sgriptiau, perfformiadau byw a/neu ddigidol, nofelau graffeg ac ysgrifennu i blant.
Efallai eich bod chi’n newydd i’r byd ysgrifennu, neu newydd gychwyn ar eich taith ac yn chwilio am gymorth i gyrraedd y lefel nesaf. Efallai y byddwch chi’n awdur eithaf adnabyddus yn barod, ond bod rhwystrau sy’n eich atal rhag cyrraedd eich llawn botensial. Neu efallai eich bod chi am arbrofi â ffurf lenyddol neu iaith wahanol.
Mae modd i awduron sy’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg, Saesneg, neu unrhyw un o ieithoedd eraill Cymru ymgeisio, er mai dim ond ceisiadau Cymraeg neu Saesneg y gallwn eu hasesu ar gyfer y broses gais. Gall awduron nad ydyn nhw’n rhugl eu Cymraeg ond sy’n chwilio am gyfle i wella’u sgiliau ysgrifennu a’u sgiliau creadigol yn Gymraeg hefyd wneud cais, a derbyn cymorth i ddatblygu eu gwaith ysgrifennu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod y rhaglen hon.

Pam ein bod ni’n cynnal y rhaglen hon?
Rydym ni’n ymwybodol iawn bod lleisiau pobl o liw wedi’u tangynrychioli yn niwylliant llenyddol Cymru. Pan na all pobl weld eu hunain yn yr hyn y byddan nhw’n ei ddarllen neu’n ei glywed, mae nhw’n llai tebygol o lawer o uniaethu â’r llenyddiaeth sydd o’u hamgylch, o deimlo bod gwerth i ysgrifennu creadigol, o deimlo’n rhan o’r gymuned ysgrifennu, neu o deimlo y gallan nhw greu gyrfa lwyddiannus fel awduron.
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu llenyddiaeth fel ffurf gelfyddydol sy’n gynhwysol ac yn berthnasol i bawb yng Nghymru. Byddwn ni’n gweithio’n ddwys gyda’r awduron llwyddiannus er mwyn mynd i’r afael â’r rhwystrau i gydraddoldeb ac amrywiaeth yn y byd llenyddol. Rydym ni fel cwmni hefyd yn disgwyl dysgu llawer yn ystod y rhaglen, a byddwn ni’n gwrando’n barhaus ar yr adborth ac yn gwrando ar yr hyn y bydd gan yr awduron a’n partneriaid ei ddweud wrthym. Ar ôl y rhaglen 12 mis, byddwn yn parhau i weithio gyda’r garfan o awduron a phartneriaid i sicrhau eu bod nhw’n cael y gefnogaeth a’r cyngor y mae eu hangen arnyn nhw i gyflawni eu nod yn yr hir dymor.

Y Loteri Genedlaethol sy’n ariannu’r rhaglen hon drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.

RHANNWCH