Cartref digidol diwylliant Cymru.

Rhagflas – Y PUMP MAWR

Llenyddiaeth

Er mai merch ffarm ydw i, does gen i ddim llawer i’w ddweud wrth na chath na chi ond rhowch i mi gyfle i deithio i chwilio am fywyd gwyllt, yna mae fy chwilfrydedd ar dân!
Dechreuodd yr ysfa’n ôl yn 1988, pan aethom fel teulu ar saffari i Kenya gan geisio dod o hyd i’r Pump Mawr, yr eliffant, rheino, llew, llewpart a’r byfflo. Dros nifer o flynyddoedd a theithio saith gwlad yn yr Affrig, rydym wedi rhyfeddu atynt ac yn gwerthfawrogi’r hyn sy’n cael ei wneud i’w gwarchod.

Daeth yr awydd ymhen rhai blynyddoedd i ganolbwyntio ar greadur brodorol y wlad honno. Aeth Ioan, y gŵr a minne i Chile i chwilio am y piwma. Creadur swil ydi o ac un a oedd yn profi pa mor amyneddgar oedd rhaid i ni fod, yn eistedd am oriau yn aros iddo ddod i’r golwg.

Bydd y rhifyn yma ar gael fis Medi 2020, fel rhifyn dwbl – cysylltwch i danysgrifio.

RHANNWCH