Beth well na rhoi eich trainers ymlaen ar noson wlyb, oer a thywyll ddechrau Ionawr? Sawl peth dybiwn i. Ond, gydag anogaeth Clwb Rhedwyr Hebog, mentrodd criw ohonom i gychwyn ar daith naw wythnos, heb wybod yn iawn beth oedd o’n blaenau.
Roedd rhaid dilyn yr app yn ystod yr wythnos a mynd ddwywaith ein hunain. Roedd yn wych ac yn dweud pryd i redeg a phryd i gerdded. Ar ôl y noson gyntaf, penderfynu codi ben bore dydd Iau a mynd ar hyd lonydd cefn Porthmadog, a dychryn distawrwydd y dref. Wrth droedio’r Cob Crwn, efo dim ond yr adar yn gwmni, ffwrdd a ni. Roedd yn bleser llwyr gweld y dref yn deffro gyda’r wawr wrth inni groesi’r harbwr a’r diwrnod o’n blaenau. Braf oedd mynd adref i gynhesu efo powlen o uwd a chawod gynnes cyn cychwyn am y gwaith ac wynebu’r diwrnod. Roedd y cyffro’n wych ac yn codi hwyliau unrhyw un ar gychwyn diwrnod
Bydd yr erthygl llawn ar gael yn y rhifyn dwbl fis Medi. Cysylltwch i danysgrifio.