Cartref digidol diwylliant Cymru.

Rhagflas – Lliw a Llun yn Llys Llywelyn

Llenyddiaeth

Mared Wyn McAleavey, Prif Guradur Ystafelloedd Hanesyddol Amgueddfa Cymru

Mae hi wedi bod yn gyfnod cyffrous iawn i ni’n ddiweddar yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Diwedd 2018 cwblhawyd y prosiect Creu Hanes, ailddatblygiad gwerth £30 miliwn, diolch i nawdd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Llywodraeth Cymru a llawer o gefnogwyr eraill, gan agor orielau, gweithdy ac adeiladau hanesyddol newydd a thrawsnewid profiad ein hymwelwyr. Trwy’r prosiect hwn, gwireddwyd ein huchelgais o greu hanes gyda, yn hytrach nag ar gyfer pobl Cymru. Cydweithiodd miloedd o bobl gyda ni i ail-ddychmygu’r Amgueddfa a gweddnewid ein dulliau gwaith…….

Comisiynwyd baner a dau groglun dan arweiniad yr arlunydd a chynllunydd tecstilau, Cefyn Burgess. Yn ystod tymor yr haf 2017, bu hanner cant o ddisgyblion ysgolion cynradd Niwbwrch, Llangaffo, Dwyran a Bodorgan ar Ynys Môn yn gweithio gyda Cefyn i gynllunio croglun sy’n adrodd hanes Branwen o Ail Gainc y Mabinogi……

Criw o’r de fu’n gyfrifol am yr ail groglun, a’r chwedl dan sylw oedd Culhwch ac Olwen. Y tro yma, disgyblion Ysgol Gymraeg Nant Caerau, Caerdydd fu’n cynllunio’r gwaith dan arweiniad Cefyn a gwirfoddolodd rhyw ugain o wragedd o ardal Caerdydd ac Abertawe i bwytho’r croglun, sawl un yn aelodau o Ferched y Wawr.

RHANNWCH