Cynhaliwyd y seithfed sesiwn o Pererin Wyf / Is Oilithreach Mé ar yr 12fed o Ionawr 2023 pan gyflwynodd y gantores draddodiadol Rachel Uí Fhaoláin a chrëwr ffilm John Ó Faoláin eu gwaith gyda chân a chwedlau yn Llwch Garmon a thu hwnt. Roedd Rachel a John yn gyd-hwylusydd ar gyfer y prosiect Pererin Wyf yn Llwch Garmon.
Comisiynwyd Pererin Wyf gan y prosiect Cysylltiadau Hynafol a arweinir gan Gyngor Sir Penfro gyda’r partneriaid Cyngor Sir Wexford, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Visit Wexford. Ariennir y gwaith gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru.