Mae gan Geraint Rhys lwmp o lais canu, gall ddyrnu dryms gyda’r gorau, mae yn dipyn o ddewin ar y gitâr… ac mae un o’i ganeuon wedi ei mwynhau 100,000 o weithiau draw yn Sbaen…
Dychmygwch y Manic Street Preachers ifanc – pan oedden nhw yn chwarae roc trwm ffyrnig a blin – yn recordio anthem Annibyniaeth i Gymru, ac mae ganddo chi ryw syniad o naws ‘Who Are You?’
Anodd credu bod y gân pync-roc politicaidd wedi cael ei recordio yn ’stafell wely Geraint Rhys, gyda’r canwr yn chwarae’r drymiau, y gitâr, a’r bass arni.
Mae gan ‘Who Are You?’ bopeth – llais canu angerddol sy’n berffaith i fynegi rhwystredigaeth gyda “lladron” a “chelwyddgwn” San Steffan; riff gitâr can-milltir-yr-awr i ddal ein sylw ar gychwyn y gân, ac yna solo gitâr yn nes ymlaen sy’n llwyddo i wefreiddio heb fynd dros ben llestri; ac mae’r drymio yn swnio mor gyntefig o gadarn, yn rhywbeth o Oes yr Arth a’r Blaidd.
Mae’r boi sydd wedi creu’r cyfan wedi manteisio ar y cyfnod clo i ddysgu sut i recordio gartref.
Ac er nad yw yn un o wynebau amlyca’r Sîn Roc Gymraeg, mae Geraint Rhys wrthi ers blynyddoedd yn creu amrywiaeth trawiadol o ganeuon reggae, electro-roc a baledi tyner acwstig megis ‘Ble Mae’r Haul?’.
“Wnes i ryddhau trac cyntaf fi obwyti saith mlynedd yn ôl, ‘Ble Mae’r Haul?’,” eglura’r cerddor 30 oed o Abertawe.
“Ac ers hynny, dw i jesd wedi bod yn rhyddhau stwff trwy gydol y blynyddoedd.
“Mae stwff fi yn cael ei chwarae ar Radio Cymru, Radio Wales a [BBC Radio] 6 Music, a dw i wedi bod yn perfformio ers blynyddoedd.
“Ac mae stwff fi yn tueddu i fod yn wleidyddol – dim bob amser. Ond rydw i wedi rhyddhau stwff sydd yn wleidyddol, ond sydd ddim yn cael ei chwarae wedyn ar y radio oherwydd maen nhw yn eithaf strict am beidio chwarae’r stwff mwy gwleidyddol.”
Yn rhyfedd ddigon, un trac na chafodd groeso gan orsafoedd Cymreig a Phrydeinig, meddai Geraint Rhys, oedd ei gân yn cefnogi annibyniaeth i Gatalwnia yn Sbaen, adeg y refferendwm cythryblus ar annibyniaeth yn 2017.
Ond fe gafodd ‘Visca La Terra’ groeso cynnes gan y Catalaniaid.
“Roedd honna am y Catalan Independence Movement, a wnaeth honna yn eithaf da draw yng Nghatalwnia,” eglura’r canwr, “ac roedden nhw yn chwarae hi ar y radio a stwff, a wnaeth [y fideo o’r gân] gael dros 100,000 o views ar YouTube.
“A wnaethon ni ryddhau e jesd cyn y refferendwm yn 2017, ac aetho i allan yna i chwarae gigs a stwff. Mae gyda fi ffrindiau draw fan’na.”
Ac ar y gân Gymraeg ‘Ta ta Tata’ mae Geraint Rhys yn canu am helbulon gweithfeydd dur Port Talbot.
“Mae honna am Bort Talbot a sut mor fregus yw’r gweithlu dur, a gan bo fi’n dod o Abertawe mae e’n agos.”
Er bod degau o filoedd o bobol wedi gwylio’r fideo ar gyfer ‘Ta ta Tata’ ar safle facebook Geraint Rhys, mae’r canwr yn dweud nad ydy’r gorsafoedd radio wedi ei chwarae.
“Pan rydw i’n rhyddhau stwff sydd ddim yn wleidyddol, yn aml mae yn cael ei chwarae ar BBC Radio Wales neu BBC Cymru, ond os yw e’n wleidyddol, dydyn nhw ddim yn hoffi fe.”
Darllen mwy yma