Fy mwriad y mis hwn oedd ysgrifennu am effaith dyrchafiad Liz Truss ar draul Boris Johnson ar wleidyddiaeth yr Alban. Ond bellach mae’n ymddangos y bydd marwolaeth y Frenhines Elizabeth a dechrau teyrnasiad y Brenin Charles yn cael mwy o effaith ar bethau.
Yn ystod yr ymgyrch am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol roedd agwedd Truss yr un fath yn union ag agwedd ei rhagflaenydd: yn wrthwynebus i annibyniaeth, yn wrthwynebus i refferendwm, yn wrthwynebus i hyd yn oed drafod y pwnc na rhoi unrhyw ystyriaeth iddo. Os na fydd ymchwydd yn y gefnogaeth i Truss ymhlith etholwyr yr Alban – a does dim tystiolaeth o hynny hyd yma – dyw newid prif weinidog yn San Steffan yn newid dim ar dirwedd gwleidyddol y wlad.
Ond gallai marwolaeth y Frenhines newid hynny. Yn gyntaf, bydd llawer o ymgyrchwyr dros refferendwm annibyniaeth arall yn cofio sut y dylanwadodd marwolaeth y Dywysoges Diana ar refferendwm datganoli 1997: ataliwyd yr ymgyrchu er i’r refferendwm ei hun fynd rhagddo. Credir bod y sefyllfa wedi peri i’r farn gyhoeddus glosio tuag at y status quo gan gau peth ar y bwlch rhwng pleidleiswyr Ie a Na, ond nid digon i’w gau yn llwyr. Gyda’r farn am annibyniaeth yn llawer mwy rhanedig na’r farn 25 mlynedd yn ôl am ddatganoli, a’r coroni’n debygol o ddigwydd yn yr haf, dim ond rhyw ddeufis o bosib cyn refferendwm, mae posibilrwydd cryf fod pleidlais dros annibyniaeth yn llai tebygol bellach nag yr oedd ar ddechrau mis Medi.
Ond os edrychwn ni ar agwedd yr Alban tuag at y Deyrnas Unedig, mae gwahaniaeth rhwng y farn am y ‘Deyrnas’ a’r farn am yr ‘Unedig’. Fel y gellid disgwyl, mae barn gref o fewn yr SNP o blaid gweriniaeth. Ond polisi swyddogol y blaid yw – a dyna hefyd oedd y polisi adeg refferendwm annibyniaeth 2014 – y byddai Alban annibynnol yn arddel y frenhiniaeth ac yn ymaelodi â’r Gymanwlad.
Bellach, prif ladmeryddion gweriniaeth Albanaidd annibynnol yw’r Gwyrddion.
Y lle gorau i fesur safbwyntiau’r pleidiau yw ar ddechrau pob tymor seneddol. Mae aelodau Holyrood yn fwy llafar eu gwrthwynebiad i dyngu llw o deyrngarwch i’r Brenin (o hyn ymlaen) nag yw aelodau San Steffan. Mae’r mwyafrif o’r rhai sy’n anfodlon gyda’r llw yn cyfeirio at sofraniaeth pobl yr Alban; gwnaiff eraill bwynt o gyfeirio at Albanwyr fel ‘dinasyddion nid deiliaid’. Yn 1999 a 2003 roedd Aelodau Senedd yr Alban ar ran yr SNP yn llafar iawn ar y mater ond ers 2007 bodlonodd y rhan fwyaf ohonynt ar adael i’w harweinydd brotestio ar eu rhan cyn cymryd y llw. Nid felly’r Gwyrddion. Yn wir bydd Patrick Harvie eu cyd-arweinydd yn galw, cyn cymryd y llw, am ddisodli’r goron yn yr Alban â phennaeth etholedig.
Ond fedr y Gwyrddion, hyd yn oed, ddim cystadlu â chwe aelod Plaid Sosialaidd yr Alban, yn enwedig Tommy Sheridan. Adeg agor y Senedd ddiwethaf cododd ei ddwrn a galw am weriniaeth annibynnol i’r Alban; tyngodd Rosie Kane y llw gan ddangos y geiriau ‘My oath is to the people’ ar gledr agored ei llaw; mynnodd Colin Fox adrodd ‘A Man’s A Man for A’ That’ gan Robbie Burns cyn cymryd y llw; ac esboniodd Carolyn Leckie nad oedd ‘yn adnabod y ddynes’ cyn ymddiheuro i’w mam frenhingar!
Yn ddiddorol, fodd bynnag, mae llond llaw o’r aelodau Llafur yn anhapus bod rhaid cymryd llw o deyrngarwch i’r goron. Cyn iddi wneud hynny yn 2021 dywedodd Mercedes Villalba ar goedd yn y siambr mai gweriniaethwraig yw hi.
Felly nid cefnogwyr annibyniaeth yw’r unig rai yn y Senedd sy’n dymuno gwneud i ffwrdd â’r frenhiniaeth.
Yn anochel mae cyfnewid brenin newydd am frenhines gyfarwydd yn cymhlethu sefyllfa sydd – fel y ceisiais ddangos – eisoes yn ddigon cymhleth. Wyddom ni ddim sut y bydd y newid yn dylanwadu ar y farn gyhoeddus. Ond bydd yn siŵr o gael dylanwad.
Will Patterson