Cartref digidol diwylliant Cymru.

Prif Enillydd LLYF21: ‘tu ôl i’r awyr’ (Y Lolfa) – Megan Angharad Hunter

Llenyddiaeth

Nofel ddoniol a thorcalonnus sy’n cynnig cipolwg ysgytwol ar fywyd oedolion ifanc na welwyd ei thebyg mewn print yn y Gymraeg o’r blaen yw tu ôl i’r awyr. Mae Anest a Deian yn y Chweched Dosbarth a phan maen nhw’n cwrdd, mae byd y ddau yn newid am byth.

Daw Megan Angharad Hunter o Ddyffryn Nantlle ac mae’n astudio Cymraeg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi yn Y Stamp ac O’r Pedwar Gwynt, ac yn 2020 enillodd Ysgoloriaeth Awdur Newydd Llenyddiaeth Cymru. tu ôl i’r awyr yw ei nofel gyntaf.

RHANNWCH