Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pennod 91 – Cranogwen

Llenyddiaeth

Mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar Sarah Jane Rees (1839-1916), y fenyw amryddawn o Langrannog a fabwysiadodd yr enw Cranogwen.

Trafodwn ychydig o’i hanes rhyfeddol, gan gynnwys ei hymwneud â diwydiant morwrol Cymru, a’r ffaith iddi herio a goresgyn rhagfarn yn sawl maes mewn cymdeithas a oedd yn rhywiaethol iawn. Edrychwn ar ddetholiad o’i cherddi, gan ddechrau â’r bryddest ‘Y Fodrwy Briodoasol’ a ddaeth yn fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1865, a hithau wedi curo dau o feirdd gwrywaidd enwocaf y cyfnod, Ceiriog ac Islwyn. Ystyriwn ei chyfraniad pwysig fel golygydd Y Frythones a chawn gyfle i grybwyll hanes ei thaith lwyddiannus i’r Unol Daleithiau. Dyma gyfle i ystyried pwysigrwydd Dirwest yng Nghymru’r cyfnod hefyd . . . a chlywed am dueddiadau Piwritanaidd Richard Wyn Jones.

Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a’r Athro Richard Wyn Jones
Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru
Cerddoriaeth: ‘Might Have Done’ gan The Molenes

Darllen Pellach:
Sarah Jane Rees, Caniadau Cranogwen (1870).
Jane Aaron, Pur fel y dur [:] Y Gymraes yn Llên Menywod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (2013).
Jane Aaron, Cranogwen (2024).

RHANNWCH