Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pedwar Awgrym ar gyfer Gwneud y Mwyaf o Gwnsela Ar-lein a Dros y Ffôn

No Categories Found

Efallai, o ganlyniad i’r coronafeirws, bod eich therapydd wedi gofyn i chi newid i gwnsela dros y ffôn neu ar-lein. I lawer ohonom, mae hyn yn brofiad hollol newydd, ac er y gallai peidio â chyfarfod â’ch therapydd mewn person ymddangos yn siomedig, mae ymchwil wedi dangos y gall cwnsela o bell fod yr un mor effeithiol. Mae yn wahanol, ond mae technoleg heddiw yn golygu y gallwn ddal i gael mynediad i’r cymorth sydd ei angen arnom, o gysur ein cartrefi ein hunain.

Er ei fod o bosib yn ddull brawychus o gael cefnogaeth, mae hefyd yn agor y drysau i bobl nad ydynt efallai wedi ystyried therapi o’r blaen, oherwydd diffyg amser neu leoliad, materion hygyrchedd a.y.b. Mae llawer o gwnselwyr, os nad oeddent eisoes, wedi trosglwyddo i ddarparu cwnsela ar-lein a dros y ffôn, sy’n golygu y gallant barhau i gwnsela, ond hefyd darparu’r cyhoedd â chymorth ac arweiniad yn ystod yr amser ansicr hwn.

Felly, p’un a ydych yng nghanol therapi ac yn wynebu’r newid o wyneb yn wyneb i ar-lein, neu yn newydd i gwnsela, dyma bedwar awgrym i’ch helpu chi gael y mwyaf o’ch therapi.

Cael eich hun yn gyfforddus

Pan fyddwch yn ymweld â therapydd mewn person, byddan nhw wedi meddwl am sut i wneud y lle yn gyfforddus i chi. Fel arfer, mae hyn yn cynnwys seddi meddal, cael hancesi papur a lluniaeth wrth law, a darparu lle preifat. Felly, dewch o hyd i gadair gyfforddus mewn ystafell breifat, a gwneud yn siwr bod gennych chi bopeth sydd ei angen arnoch cyn i chi ddechrau eich sesiwn. Un o fanteision cwnsela o bell yw y medrwch fwynhau diod o’ch dewis, fel siocled poeth cysurus. Gall dal ffôn am 50 munud neu fwy fod yn heriol, felly os oes gennych gyfarpar di-afael, gwnewch y mwyaf ohono. Os na, gorffwyswch eich braich ar ochr cadair neu glustog, a newid dwylo’n aml.

Darllenwch fwy yma

RHANNWCH