Bwriad Prosiect 15 yw dathlu llwyddiannau unigolion ysbrydoledig sy’n siarad Cymraeg. Mae yna siaradwyr Cymraeg sy’n gysylltiedig â sefydliadau mwyaf blaenllaw’r byd, brandiau byd-eang ac unigolion mewn galwedigaethau blaenllaw.
Yn y digwyddiadau yma mi fydd ‘Prosiect 15’ yn gwahodd siaradwr ifanc i roi 15 munud o ddarlithoedd ysbrydoledig am ‘newid hinsawdd, cynaladwyedd a’r amgylchedd’ fel pwnc, dros y ddwy noson. Byddant yn son am eu profiadau a’u dyheuadau mewn arddull tegyg i ddarlithoedd TED – cyfle felly i ledaenu’r negeseuon amgylcheddol ac ieithyddol.
Y Siaradwyr:
Rhodri Rutherford (21 mlwydd oed o Sir Gaerfyrddin). Dwi’n astudio Bioleg ym Mhrifysgol Aberystwyth a bellach, yn y drydedd flwyddyn. Mae gennai ddiddordeb mewn systemau biolegol a sut mae organebau yn medru cyd-fyw o fewn ecosystemau yn enwedig wrth ystyried effeithiau’r dyfodol. Yn ogystal, dwi’n mwynhau chwarae’r clarinét a sacsoffon, canu a chymryd rhan mewn sioeau drama leol.
Teitl y sgwrs: Datblygiad dyn yw dinistriad byd.
Evie Middleton (14 mlwydd oed o Ynys Môn).Rwy’n mwynhau chwarae gitâr, arlunio, reidio fy meic a darllen. Ond mwy na ddim rydw i’n hoffi edrych ar ôl yr amgylchedd yn pigo sbwriel ac ymuno mewn marches hinsawdd er mwyn sicrhau dyfodol i’r blaned a phopeth arno.
Teitl y sgwrs: Y casineb cudd o blastig.
Evan Burgess (16 mlwydd oed ac yn byw yn Sir Conwy.) Dwi’n mwynhau beicio lôn a mynydd ac yn ffodus i fyw mewn ardal mor hardd. Cyn aelod Senedd Ieuenctid Cymru (2018-2021) yn cynrychioli Aberconwy, ac yn aelod pwyllgor Gwastraff Plastic a Sbwriel. Dwi wedi siarad yn y Senedd ac wedi cyflwyno ein hadroddiad ar Wastraff Plastic yn y Senedd rithiol yn Nhachwedd 2020.
Teitl y sgwrs: Newid hinsawdd, yr ateg cywir.
Laura Truelove (24 oed o Abertawe). Yn fy swydd dydd i ddydd, dwi’n Crëwr Cynnwys Digidol yn y dref. Ond pryd dwi ddim yn brysur yn ysgrifennu (a pryd mae rheoliadau yn caniatáu), byddai yn y môr yn syrffio neu yn nofio, beth bynnag yw’r tywydd… Mae fy nghariad am y môr wedi arwain fi i frwydro drosto. Dwi nawr yn gwirfoddoli i lanhau traethau a dysgu plant am sbwriel morol. Mae’r coronafeirws wedi uwch oleuo pa mor hanfodol yw natur i’n hiechyd meddwl. Mae o wedi achub fy mywyd, yn llythrennol, nifer o weithiau…
Teitl y sgwrs: Natur, naws a ni: Pŵer y môr ar ein hiechyd meddwl.