Cartref digidol diwylliant Cymru.

Mynd, gan Marged Tudur

Llenyddiaeth

“Mynd” gan Marged Tudur yw Llyfr y Mis, mis Ionawr, Cyngor Llyfrau Cymru.

Cyfrol o gerddi am y profiad o golli ei brawd yw Mynd. Mae cerddi’r gyfrol yn ymateb yn uniongyrchol i’r wythnosau cyntaf wedi’r brofedigaeth ac maent hefyd yn trafod y profiad dair blynedd yn ddiweddarach ac yn benodol, yr heriau, yr ofnau a’r rhwystrau sy’n parhau i wynebu rhywun.

‘Mae cerddi Marged Tudur yn mynd â gwynt dyn. Mae dawn dweud, sylwgarwch a doethineb y bardd yn sicrhau taw darnau o gelfyddyd gain, dawel angerddol, yw’r cerddi hyn, bob un. Maen nhw’n gofnod ac yn archwiliad hynod o aeddfed yn hyn o beth, mewn iaith ddealladwy, agos atoch, sy’n llawn o ddelweddau sy’n cyffroi a phigo’r synhwyrau.’
Ceri Wyn Jones

Ochr yn ochr â’r cerddi ceir darluniau gan yr artist Elin Lisabeth.

Mae Mynd ar gael o’ch siop lyfrau leol, nawr.

Yn ystod y cyfnod clo, gall siopau llyfrau ledled Cymru gynnig argymhellion darllen, trefn clic-a-chasglu, a dosbarthu drwy’r post. Cysylltwch â’ch siop lyfrau leol heddiw.

Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leol YMA

RHANNWCH