Cartref digidol diwylliant Cymru.

Mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Solomonic Peacocks Theatre yn Malawi yn Malawi wedi cydweithio dros y flwyddyn ddiwethaf i archwilio ffyrdd gwahanol o gyd-greu ar draws blatfformau digidol. Yn dilyn cyfnod o ymchwilio a datblygu, ysgrifenodd, ffilmiodd a pherffofrmiodd criw o bobl ifanc gerdd ar lafar yn defnyddio ffôn symudol fel teclun digidol.

Wedi’i hwyluso gan gan egin gyfarwyddwyr o Gymru a Malawi, mae’r grwp wedi gweithio gyda animeiddwyr, hyfforddwyr llais, coreograffwyr a gwneuthurwyr ffilm, a mae’r darn gorffenedig Moyo – Bywyd yn ffilm fer yn y ieithoedd Chichewa/Cymraeg/Saesneg sydd yn archwilio ac yn dathlu lleisiau pobl ifanc drwy gyfnewid diwylliannol.

Roedd y prosiect yn rhan o gynllun ‘Mynd yn Ddigidol’ Cyngor Prydeinig Cymru. Bydd y darn gorffenedig a ffilm ddogfen yn dangos y broses yn cael ei ddarlledu’n fyw yng ngwyl Theatr Y Pasg yn Blantyr, Malawi, a bydd ar gael i’w wylio yma dydd Gwener, Ebrill 8fed.

RHANNWCH