Nid cwlt yw hwn.
Mae’r rhyngrwyd yn effeithio ar bob agwedd o’n bodolaeth, nid oes unrhyw rhan o fywyd bob dydd yn ymddangos heb ei gyffwrdd ganddo. Mae gan gyfryngau cymdeithasol y pŵer i ddylanwadu arnom mewn cymaint o ffyrdd, o’n meddyliau a’n hymddygiad i’n perthynas ag eraill, ein hunain, a’n hamgylchfyd. Rydyn ni’n gwybod am wenwyndra ein caethiwed i’n dyfeisiau ond gyda mwy o’r byd go iawn yn bodoli’n ddigidol, mae bron yn amhosib dianc. Rydym wedi’n gorlethu gan ffasiynau, ac yn cael ein rheoli gan algorithmau, yn boddi mewn gwybodaeth a barnau croes yn ddyddiol. Os yr ydym yn dewis cymryd rhan yn bwrpasol ai peidio mae’r athrawiaethau’n dal i effeithio arnom.
Mae fy ngwaith yn fynegiant o’m anesmwythder yn y byd rhithiol. Rwy’n defnyddio sain fel ffordd o drochi. Yma defnyddiais gyfuniad o’r gair llafar, allweddell a recordiad a gymerais o wenyn mêl mewn cwch gwenyn. Gan ddefnyddio pensiliau pastel mewn tonau pinc monocrom dwi’n haenu darluniau, gan greu ymdeimlad aneglur o ddechreuadau a diweddion, lle mae’r naill ffigwr yn dechrau a’r llall yn gorffen, i geisio cyfleu fy nryswch a’m rhwystredigaeth o’r gwirioneddau gwyrdroëdig y mae’r cyfryngau cymdeithasol yn eu creu.