Cartref digidol diwylliant Cymru.

Mari’n Mwydro: Slofi lawr

Llenyddiaeth

Helo ddarllenwyr lyfli Lysh! Gobeithio eich bod chi gyd yn OK. Ma hi di bod yn flwyddyn mor od dydi? Dwi’n gobeithio’ch bod chi’n edrych ar ôl eich hunan yn y cyfnod heriol yma, a phob lwc i chi os ydach chi’n cael mynd nôl i’r ysgol am dipyn cyn yr Haf. Ma cyfnodau o newid fel hyn yn gallu bod reit unsettling felly dwi jyst am rannu rhestr o betha sydd bob amser yn gneud i fi deimlo’n well. Ma rhestr pawb am fod yn wahanol i’w gilydd; be am i chi greu rhestr eich hun a troi ato fo os ydach chi’n teimlo’n isel/rhyfedd/nerfus/ofnus/ar goll ’chydig bach? Ma 2020 bendant di atgoffa fi pa mor bwysig ydi self care ac wedi fy annog i i slofi lawr a gwerthfawrogi’r petha bach sy’n rhoi pleser mewn bywyd.

Dyma fy rhestr bach i, edrych mlaen i ddarllen eich rhai chi ?

Mynd am gawod hir a defnyddio shower gel neis
Rhoi colur mlaen
Ymarfer corff (boring iawn ond bob amser yn gneud i fi deimlo’n well)
Rhoi un o fy hoff ganeuon mlaen yn UCHEL a dawnsio
Facetime efo ffrind
Tacluso fy ystafell wely
Brechdan fish fingers efo lot o sôs coch
Mynd am dro ar ben fy hun ac edrych ar y blodau gwyllt
Tanio cannwyll ogla neis
Sortio drwy gwpwrdd/ddrôr/cael clearout bach (pwysig peidio gneud gormod yr un pryd neu mae’n gallu bod yn overwhelming)
Edrych drwy hen luniau
Darllen
Gwylio out-takes rhaglenni comedi ar YouTube
Bath bybyls
Cream egg a phaned o de
Peintio fy ngwinedd
Gwrando ar podcast
Chydig o banter ar Whatsapp
Instastories
Pampro’r corff – shafio, moisturisio, plycio, facemask
Postio cerdyn/llythyr/presant bach at rywun
Sheets gwely ffresh a pajamas glân zzzzzzzzzzzzzzzz

I fi mae dillad cyfforddus wedi bod yn hanfodol yn ystod y lockdown, felly rhowch eich loungewear ’mlaen ac anadlwch yn ddwfn! Wnes i ddarllen rywla bod anadlu’n ddwfn fatha rhoi cwtsh i’ch enaid ?

Dwi’n licio meddwl ein bod ni fel planhigion sy angen y petha iawn i dyfu a bod yn iach – dŵr, awyr iach, yr holl stwff sy’n dda i’r enaid (ein rhestrau bach personol ni), ac ma chydig bach o haul bob amser yn help! Peidiwch ac anghofio pa mor bwysig ydi llonydd hefyd; mewn cyfnod lle dan ni ’di treulio mwy o amser nac erioed efo’n teuluoedd, cofiwch bod pawb angen headspace a llonydd ar ryw bwynt bob dydd.

Off a fi i ferwi’r tegell ac estyn cream egg bach slei o’r ffrij. Be dach chi am neud i treatio’ch hun heddiw?

Mari x

RHANNWCH