Cartref digidol diwylliant Cymru.

Marilyn – Taste for Life | Gusto por la Vida | Blas ar Fywyd

Llenyddiaeth

Cafodd y fideo hwn ei greu fel rhan o Blas ar Fywyd, prosiect rhyngwladol, amlieithog a ddatblygwyd mewn partneriaeth rhwng Llenyddiaeth Cymru a Solidarios Para el Desarrollo.

Datblygwyd y prosiect gyda’r nod o fynd i’r afael ag unigrwydd ymysg pobl hŷn. Trwy ddefnyddio coginio a’r grefft o rannu straeon, crëwyd cyswllt rhwng unigolion yn Sbaen a Chymru. Gwahoddwyd pobl o wledydd eraill i gysylltu â’u cymdogion i uwchlwytho eu ryseitiau a’u straeon eu hunain.
Ar 15 Tachwedd 2018, lansiwyd tudalen Facebook y prosiect, sy’n galluogi pobl o bob cwr o’r byd i wylio’r fideos i glywed a darllen straeon yr unigolion hyn yn Saesneg, Sbaeneg neu yn Gymraeg, a dilyn eu ryseitiau. Ceir yno hefyd gerddi a ysgrifennwyd gan y beirdd Mike Church and clare e. potter.
Roedd y prosiect a’r cydweithio yn bosib trwy raglen Tandem Europe, cynllun cydweithio ar draws ffiniau sydd â’r nod o ysgogi newid cymdeithasol trwy weithgareddau diwylliannol arloesol. Dewiswyd Llenyddiaeth Cymru i fod yn rhan o’r cynllun poblogaidd ac uchel ei glod yn 2017-2018.
Gallwch ymweld â thudalen Facebook Blas am Fywyd YMA.

RHANNWCH