Cartref digidol diwylliant Cymru.

Magu adenydd: Adolygu ‘tu ôl i’r awyr’, Megan Hunter

Llenyddiaeth

Stori am gyfeillgarwch ydi tu ôl i’r awyr, yn y bôn, a’r modd y gall ein rhyddhau o’n cewyll. Yn nofel gyntaf yr awdures ifanc Megan Angharad Hunter, cawn bortread tyner ac ingol o’r berthynas rhwng Deian ac Anest, sy’n 16/17 mlwydd oed ac yn cyfarfod am y tro cyntaf ar ward seiciatryddol. Dônt yn gefn i’w gilydd wrth iddynt geisio tramwyo maes ffrwydron y Chweched Dosbarth. Er bod y nofel yn plymio i ddyfnderoedd problemau iechyd meddwl ymysg pobl ifanc (a’u rhieni), mae yma harddwch a chomedi yn ogystal â thrasiedi. Mae’r nofel yn amlwg yn deillio o ehangder dychymyg empathig yr awdur, ac mae’n disgleirio ag angerdd dros gelf weledol a cherddoriaeth. Dyfynnir y cerflunydd ffuglennol Brenda Elias ar ddechrau’r gyfrol (‘creu yn unig sydd yn fy nal yn ôl rhag troedio ar lwybr gwallgofrwydd’): mae creadigrwydd yn thema bwysig drwyddi draw. Er mai nofel ar gyfer oedolion ifanc ydi hon, byddai pob un ohonom yn elwa o’i darllen.

Yn benodol, bywydau pobl ifanc yng Ngwynedd rŵan hyn a bortreadir, pobl yn eu harddegau sy’n ceisio magu adenydd mewn byd cymhleth â dyfodol ansicr (cyfeirir at ‘global warming’, yr Wylfa, a bomiau niwclear). Mae yna rywbeth adfywiol am y blas cyfoes go iawn sydd i’r nofel hon. Ceir sgyrsiau am group therapy ar ffurf Snapchat, a defnyddir y talfyriadau sy’n rhan o ieithwedd y cyfryngau cymdeithasol: ‘idk’, ‘ngl’, ayyb. Nid penderfyniad hawdd, mae’n siŵr, oedd sgwennu’r nofel mewn bratiaith, heb yr atalnodi arferol, ac efallai y bydd yr arddull yn gelyniaethu rhai darllenwyr nad ydynt yn gyfarwydd â thafodiaith Dyffryn Nantlle, neu ddarllenwyr sy’n teimlo bod angen trin ein hiaith fel rhywbeth cysegredig na ddylid ei llygru â geiriau Saesneg a rhegfeydd di-ri. Ond mae’r effaith yn rymus. Symuda’r nofel rhwng meddyliau Deian ac Anest bob yn ail – a chymeriadau eraill, mwy ymylol, yn hwyrach ymlaen – ac wrth ddarllen eu geiriau teimlwn ein hunain yn mynd o dan groen y cymeriadau hoffus hyn, sydd yn mynegi eu hunain â gramadeg a rhythmau unigryw. Awgrymir gan Hunter fod pob un ohonom yn siarad ein hiaith ein hunain – a dyma ydi trasiedi bywyd, efallai: nid pawb sy’n medru deall ein hiaith, a gall y diffyg dealltwriaeth hwn arwain at unigrwydd marwol.

Golyga’r arddull person cyntaf yn amser y presennol ein bod yn cael mynediad i fewnwelediadau amrwd y cymeriadau am bynicau sensitif a thabŵ. Mewn parti, er enghraifft, cawn glywed meddyliau Anest am ddillad a thrais:

ma mam yn deud weithia dyla fi ddim ‘gwisgo fatha slyt’ achos ma hin meddwl fod o fwy likely i rapist ytacio fi os dwin gwisgo mewn ffor syn neud fi teimlo chydig llai hyll neu whatever. di hi ddim yn dalld fod o mots be ffwc tin gwisgo achos os tin hogan mar byd run mor gymaint o minefield os tin gwisgo bikini neu dillad sgio neu fuck all. vaj fi syn neud o mwy likely i rapist ytacio fi, nid ffocin fashion choices fi. mor unfair fod genod methu gwisgo be ffwc ma nw isio heb genod erill i gyd yn jyjo a hogia i gyd yn twtsiad chdi fatha ma nw bia chdi.

Darllenwch yr adolygiad yn llawn, am ddim, ar wefan pedwargwynt.cymru

RHANNWCH