Mae’r BPL – Band Pres Llareggub – newydd ryddhau dwy gân newydd gyda hen ffrind.
Yn 2015, un o’r pethau cynta’ glywson ni gan y cyrn-garwyr oedd cân wych o’r enw ‘Foxtrot Oscar’ oedd yn cynnwys llais Amlyn Parry yn rapio: ‘birds, ti’n gw’bod yn iawn, dwi’n dawnsio’r foxtrot trwy’r prynhawn’.
Ac o feddwl bod y gân wedi mynd lawr fel bom ar Radio Cymru, mae hi’n rhyfedd meddwl ei bod hi wedi cymryd pum mlynedd i’r BPL ac Amlyn Parry greu mwy o ganeuon.
Ond dyna ni, ara’ deg mae dal iâr… fe lwyddon nhw i recordio dwy newydd cyn y cyfnod clo, sydd newydd eu rhyddhau… ac maen nhw yn bangars!
Mae ‘Ma dy nain yn licio hip-hop’ yn swnio’n fudur ac yn fodern gyda bass TEW a’r rapio yn llifo’n slic oddi ar dafod Amlyn Parry:
Mae dy nain yn hardcore…
Dw i’n cofio unwaith ar y dancefloor
Yn breicio
A fi yn y slow lane, a dy nain yn ofyrteicio
O ni’n teimlo fatha creep, jesd yn sefyll a stêrio
Sbarcs yn dod o’i thraed, oedd y ddynas ddim yn cêrio
Roedd hi’n swingio rownd ffon gerddad fatha mwnci yn y jungle
Nain with attitude, y ddynas ready to rumble!
Dwi ddim yn gwybod be’ mae hi’n smocio
Dwi ddim yn gwybod be’ mae hi ar
Ond watsia di dy big
Achos mae hi’n troi ceiliog mewn i iâr!
I gyd-fynd â’r geiriau gwirion, mae cerddoriaeth fydd yn gyfarwydd i’r rhei hynny sy’n hyddysg yn eu hip-hop.
Ac mae’r bass yn swnio yn wahanol i unrhyw beth mae’r BPL wedi ei wneud o’r blaen.
Dyma fand sy’n enwog am ddefnyddio cyrn pres i greu pop ffynci – ond ar gyfer y gân newydd maen nhw wedi defnyddio mwy na thiwba i greu sŵn bass budur….