Cartref digidol diwylliant Cymru.

Llyfr Taliesin

No Categories Found

Dyma ni’n cyflwyno’r penodau sy’n trafod dwy o gerddi Taliesin, ac rydym ni’n gwneud hynny trwy edrych ar Lyfr Taliesin ei hun, un o’r trysorau a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Crëwyd y llawysgrif ryfeddol hon yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar ddeg, ond mae’n cynnwys casgliad o gerddi sy’n cael eu priodoli i’r bardd Taliesin a oedd yn canu mawl i arweinwyr ei gymdeithas yn yr Hen Ogledd yn y chweched ganrif.

Mae’n ddiddorol meddwl am y cerddi hyn yn teithio trwy amser o’r cyfnod hynafol hwnnw i’r Oesau Canol wrth iddynt deithio o’r Hen Ogledd i Gymru. A digwyddodd rhywbeth arall yn ystod y daith honno hefyd: oherwydd ei statws fel un o’r cynfeirdd sy’n sefyll ar ddechrau hanes y traddodiad barddol Cymraeg, aeth Taliesin yn gymeriad chwedlonol. Felly yn ogystal â’r canu mawl hanesyddol, mae Llyfr Taliesin yn cynnwys nifer o gerddi a gysylltir â’r Taliesin chwedlonol, cymeriad gyda phwerau goruwchnaturiol sy’n ymgnawdoliad o hud a grym barddoniaeth Gymraeg.

RHANNWCH