Alan Llwyd, “Byd Gwynn, Cofiant T Gwynn Jones”, (Cyhoeddiadau Barddas)
Enillydd y Wobr Ffeithiol Greadigol yw Alan Llwyd gyda’i gyfrol Byd Gwynn, Cofiant T Gwynn Jones (Cyhoeddiadau Barddas). Dyma gyfrol sy’n gofiant cynhwysfawr i’r Prifardd wrth i’r awdur fynd o dan groen y gŵr hynod a chymhleth hwn. Trafodir ei fagwraeth a’i deulu, ei weithiau creadigol o bob math, ei addysg a’r holl ddylanwadau arno.