Cartref digidol diwylliant Cymru.

Lloffion y llenor – Derfel Clarke

Llenyddiaeth

Derfel Clarke
Amser darllen: 3 munud

Pwy fyddai’n meddwl wir, ond Gruff roddodd y sbardun i mi. Er, rhaid i mi ddweud bod sbardun yn derm hynod o anghydnaws mewn perthynas â Gruff. Fo ydi perchennog y garej leol sy’n ymhyfrydu ym mlinderau’r byd. Rhydd Gruff yr argraff, pe byddai’n fodlon trafferthu, y gallai drwsio ein holl argyfyngau mor handi ag y byddai’n mynd i’r afael â methiant alternator mewn Ford Fiesta. Ond does neb yn cyboli gofyn mwy na hynna ohono, ac o ganlyniad, ‘Mae’r byd yn mynd i’r diawl’.

Cymro glân gloyw yw Gruff sy’n gloddesta ar benawdau lloerig yr Express a’r Sun. Mae’n debyg y byddai’n berffaith fodlon cydnabod nad yw ei ddiwylliant na’i iaith yn berthnasol i’w olwg ar y byd. Cyfaddefodd hyn y diwrnod o’r blaen ar ôl codi dau gan punt arna’i am newid alternator y Fiesta. Chwarddodd yn goeglyd wrth rwygo’r daleb o’r peiriant gan ddweud, ‘Mae arna’i ofn na wnei di’r un sentan arna’i, Derfel – faswn i byth yn darllen ’run o dy lyfrau di.’

£10 flwyddyn i danysgrifio a darllen pob gair ewch yma

RHANNWCH