Sgwrs: John Rea
John Rea yn sgwrsio gyda Jon Gower
Diolch i Tafwyl am gael defnyddio’r recordiad
Atgyfodi
Mae’r gwaith Atgyfodi yn gyfuniad o gerddoriaeth fyw, ffilm a gosodiad sain wedi’i ysbrydoli gan Archifau Lluniau a Sain Amgueddfa Werin Sain Ffagan, gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, a Patrick Rimes a Cass Meurig ar offerynnau traddodiadol.
Perfformiwyd yn Amgueddfa Sain Ffagan, ynghyd â gosodweithiau sain, ym Mis Hydref, 2018, gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru, Y PRS Foundation, Ty Cerdd, a Gorilla. Dangoswyd hefyd fel rhan o wyl ‘Sight & Sound’ gan Ffotogallery, ac yn ngwyl gerddorol ‘Green Man’ yn 2019.
Gwaith Camera gan Huw Talfryn Walters, a golygu gan Paul Owen a Phil Hayes-Real.
Defnyddiwch glusffonau am brofiad ymdrochol.
Radio Cymru: Atgyfodi
Atgyfodi gan John Meirion Rea
Yn ein harchifau yr ydym yn cadw a chasglu ein straeon – y personol a’r Cenedlaethol; boed hynny ar bapur, silindr Edison, shellac, feinil, tâp, ffilm neu ddisg galed, y rhain yw gweadau’r côf, hanes, diwylliant, perthyn a’n hunaniaeth.
Mae Atgyfodi yn cyflwyno lleisiau a recordiadau coll o archifau sain Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan trwy gyfrwng gosodweithiau trwythol sy’n cyfuno sain amgylchynol, delweddau a ffeindiwyd a rhai a ffilmiwyd yn benodol.
Blawd Barlys
Comisiynwyd y plethwaith sain yma gan BBC Radio Cymru, a mae’n seiliedig ar y gosodwaith sain safle-benodol, a oedd yn rhan o’r gwaith Atgyfodi, a berfformiwyd yn Amgueddfa Sain Ffagan ym Mis Hydref, 2018.
Wrth greu y gweithiau yma, sef y syniad yma o adfywio acwstics yr adeiladau yn yr Amgueddfa, ges i hefyd siawns hefo’r podeliadau i ‘archifo’ acwstics mewnol yr adeiladau, ac mi ellir clywed hwn ar y recordiad yma.
Gorfod Gweithio
Comisiynwyd y plethwaith sain yma gan BBC Radio Cymru, a mae’n seiliedig ar y gosodwaithiau sain safle-benodol, a oedd yn rhan o’r gwaith Atgyfodi, a ddangoswyd yn yr Amgueddfa ym mis Hydref, 2018.
Wrth greu y gweithiau yma – sef y syniad yma o adfywio acwstics yr adeiladau yn yr Amgueddfa – ges i hefyd siawns hefo’r podeliadau i ‘archifo’ acwstics mewnol yr adeiladau, ac mi ellir clywed hwn ar y gwaith sain yma.
Mae hwn yn galluogi acwstic ysgubor Kennixton i deithio yn ol (trwy cyfrwng y radio)i’r lleoliad gwreiddiol, ynghyd a llais yr hen ffermwr.
Y March Glas
Dyma fersiwn o’r gan draddodiadol Y March Glas, o archif sain Amgueddfa Sain Ffagan. Kate Davies (g. 1892)o Dyffryn Cletwr sy’n canu, hefo patrick Rimes yn ymateb ar y chwiban.
An interpretation of a traditional Welsh song, discovered in the archives of The National Museum: St Fagans, sung by the ‘tradition bearer’ Kate Davies (b. 1892).
I have created a musical ‘frame’ around this rarely heard version of the melody, answered by the musician Patrick Rimes on whistle.