Heddiw fe ryddhawyd fideo o gerdd ‘Tu Draw’ cafodd ei ysgrifennu gan Fardd Plant Cymru Casi Wyn ar ôl gweithdai creadigol gyda phlant ysbrydoledig 9-11 oed. Pwrpas y prosiect yw codi ymwybyddiaeth o ddyslecsia yng Nghymru drwy ddod â phlant gyda dyslecsia ynghyd i rannu a rhoi llwyfan i’w profiadau – i roi llais i ddyslecsia yng Nghymru.
Bwriad Shari Llewelyn, Cynhyrchydd ac artist y prosiect, oedd codi ymwybyddiaeth a thaflu goleuni ar faterion dyslecsia â’r Gymraeg drwy rym y celfyddydau i geisio cael gwell dealltwriaeth o’r cyflwr yng Nghymru – ei effeithiau a’i fuddion gan sbarduno hyder a balchder mewn plant gyda dyslecsia, ar ôl iddi ddarganfod bod gan ei merch dyslecsia.
Gydag arian cronfa Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru; Canolfan Dyslecsia Miles, Prifysgol Bangor; Casi Wyn Bardd Plant Llenyddiaeth Cymru a chefnogaeth Ysgol Tryfan, Bangor Cynhaliwyd cyfres o weithdai yn Pontio dros hanner tymor Chwefror 2023 ac fe’u cynlluniwyd yn ofalus i godi hyder y plant gan ddathlu eu cryfderau, eu lleisiau creadigol a’u llwyddiant. Ymunodd y cerddor Elin Taylor a’r ddawnswraig Angharad Harrop i ysbrydoli yn ogystal.
Dywedodd Shari Llewelyn, Cynhyrchydd y prosiect “Bydd y bartneriaeth yn waddol pwysig i
brosiectau tebyg o’i fath ar gyfer niwroamrywiaeth yn y dyfodol. Bydd yn gyfle i sicrhau bod
boddhad mewn geiriau yn bosibl i bawb gan gynnwys y 15-20% o’r boblogaeth sydd gyda
dyslecsia. Drwy’r celfyddydau mae modd gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl a newid
agweddau.”
Cynhyrchwyd ffilm ddogfen fer gan Ffion Jon Williams o’r gweithdai, sy’n cynnwys cyfweliadau gyda’r plant, rhieni a phartneriaid y prosiect. Mae’r fideo ‘Tu Draw’ yn cynnwys Casi Wyn a Nanw Jones, un o’r plant fu’n cymryd rhan yn y prosiect, yn adrodd cerdd gan Casi yn ymateb i eiriau’r plant yn y gweithdai. Gwelir hefyd haen o animeiddio gan y dylunydd Dan Parry Evans wedi ei blethu gyda darluniadau Shari Llewelyn.
Dywedodd Casi Wyn, Bardd Plant Cymru: “Fy mwriad wrth greu’r gerdd ‘Tu Draw’ oedd creu
rhywbeth y byddai’r plant yn ei berchnogi… fy nod oedd i wrando gymaint â phosib. Beth mae ‘Tu Draw’ yn ein cyfeirio ni ato yw ein bod ni’n parchu ac yn anrhydeddu gallu geiriau i’n helpu ni i gyfathrebu gyda’n gilydd, ond bod pethau ddim mor ddu a gwyn – os fedrwch chi ddefnyddio geiriau yna ti’n glyfar – ein bod ni’n mesur tu draw i hynny.”
Cawn glywed gan Dr Manon Jones Cyfarwyddwr Canolfan Dyslecsia Miles a gan Ruth Elliott
cydlynydd y ganolfan a’r prosiect “Gobeithio yn y dyfodol bydd mwy o brosiectau fel ‘Llais
Dyslecsia’ i roi cyfle i bawb cael rhywle saff i ddatblygu sgiliau i fod yn llwyddiannus efo dyslecsia”
Mae’r wybodaeth yn aml yn gamarweiniol o gwmpas y cyflwr a phrin iawn yw’r sylw a’r cysondeb sydd ar gael yn yr iaith Gymraeg yng Nghymru. Yn aml mae pryderon o fethu ymysg plant ac oedolion, all achosi cyflyrau eraill. Gan nad oes digon o ddealltwriaeth am ddyslecsia ar gael, gyda’r wybodaeth a’r adnoddau yn yr iaith Gymraeg yng Nghymru yn aml yn anodd ei gyrraedd ac yn gostus.