Cartref digidol diwylliant Cymru.

LLAIS 2022: Pussy Riot, Audiobooks and D Double E join line up

Cerddoriaeth

• Pussy Riot, y cymundod celf berfformio pync-roc yn cyflwyno eu sioe arobryn Riot Days

• Yr arloesydd grime D Double E fydd prif artist y Stiwdio Weston gyda chefnogaeth rhai o’r artistiaid newydd gorau o Gymru

• Ffefrynau Cymreig audiobooks yn ymuno â Keeley Forsyth mewn rhaglen ddwbl

• Rhaglen profiadau ymdrochol yn cynnwys In Pursuit of Repetitive Beats gan Darren Emerson, FLIGHT a No Place Like (Flat) Holm

• Maent yn ymuno â’r artistiaid sydd wedi’u cyhoeddi’n barod, sy’n cynnwys John Cale, Brett Anderson a Charles Hazlewood gyda Paraorchestra, Abdullah Ibrahim, Midlake, black midi, Cate Le Bon, a Bombino

Llais (Gŵyl y Llais gynt) yw gŵyl gelfyddydau ryngwladol flynyddol y Ganolfan, wedi’i hysbrydoli gan yr offeryn sy’n ein cysylltu ni i gyd

Mae Canolfan Mileniwm Cymru heddiw wedi cyhoeddi rhagor o artistiaid sy’n ymuno â lein-yp Llais 2022, gŵyl gelfyddydol ryngwladol flaenllaw y Ganolfan sy’n dychwelyd i Gaerdydd ar 26-30 Hydref 2022 gyda chyfres eclectig o gyfranwyr rhyngwladol.

Bydd y cymundod pync-roc eiconig Pussy Riot yn dod â’u sioe arobryn Riot Days i’r ŵyl. Yn fwy perthnasol a phwysig nag erioed, mae’r sioe yn gyfuniad arloesol o gerddoriaeth byw, theatr a fideo, wedi’i chynhyrchu gan Alexander Cheparukhin a’i chyfarwyddo gan Yuri Muravitsky.

Bydd yr artist grime arloesol D Double E, a oedd yn rhan bwysig o sefydlu grime yn y DU, yn seren Stiwdio Weston y Ganolfan gyda chefnogaeth rhai o’r artistiaid newydd gorau o Gymru. Yn ymuno â D Double E ar y llwyfan bydd yr artist drill o’r Penwynion SAGE TODZ a’r rapiwr o Abertawe MARINO, ac yn agor y sioe bydd rhai o MCs grime fwyaf cyffrous Cymru – MANLIKEVISION, Niques, Razkid, Smxk3 a Truth.

Bydd y band Gymreig audiobooks hefyd yn ymuno â’r cantores Keeley Forsyth mewn rhaglen ddwbl.

Mae’r artistiaid sydd eisoes wedi’u cyhoeddi’n cynnwys John Cale, a berfformiodd yng Ngŵyl y Llais gyntaf yn 2016, ac sy’n dychwelyd ym mlwyddyn ei ben-blwydd yn 80 oed i berfformio gyda Sinfonia Cymru a gwesteion arbennig ac i sgwrsio am ei fywyd a’i yrfa. Bydd Death Songbook, sy’n cynnwys fersiynau newydd sensitif o ganeuon am farwolaeth a berfformiwyd ar-lein yng Ngŵyl 2021 y llynedd gan Brett Anderson o Suede, Charles Hazlewood, a Paraorchestra, yn cael eu perfformio o flaen cynulleidfa fyw am y tro cyntaf.

Hefyd yn ymddangos fydd y pianydd jazz chwedlonol o Dde Affrica Abdullah Ibrahim, rocwyr gwerin indie o Texas, Midlake, band roc Saesneg black midi a’r Gymraes Cate Le Bon ei hun. Bydd y cerddor Bombino o Niger yn perfformio ei unig ddyddiad yn y DU eleni yn ogystal â’r band wyth darn arbrofol o Lundain caroline a’r grŵp seic-gwerin Tara Clerkin Trio.

Ymhlith y cyfranwyr eraill y mae Les Amazones d’Afrique, grym creadigol o bob rhan o’r diaspora Affricanaidd.

Rhwng perfformiadau, gall cynulleidfaoedd hefyd fwynhau dau brofiad realiti rhithwir rhyngweithiol. Yn In Pursuit of Repetitive Beats gan y crëwr ffilmiau arobryn Darren Emerson – un o’r digwyddiadau trawiadol a gafwyd yn Ninas Diwylliant y DU Coventry y llynedd – bydd y gynulleidfa’n teithio i galon y mudiad acid house, ac yn FLIGHT gan Darkfield byddant yn wynebu bydoedd, gwirioneddau a chanlyniadau gwahanol ar awyren wrth archwilio’r dehongliad sawl byd o fecaneg gwantwm. Gerbron hynny, bydd y gosodiad ffilm ymdrochol No Place Like (Flat) Holm yn adrodd hanes yr ynys sy’n wynebu bygythiad oherwydd cynnydd yn lefel y môr drwy dynes unig mewn poen cronig.

Bydd hefyd amserlen lawn o weithdai a digwyddiadau am ddim, gyda rhagor o fanylion i’w cyhoeddi ym mis Medi.

Dros bum niwrnod, bydd Llais yn llenwi pob twll a chornel o Ganolfan Mileniwm Cymru gyda rhaglen wedi’i hysbrydoli gan yr offeryn sy’n ein cysylltu ni i gyd – y llais. Caiff cynulleidfaoedd wledd o amserlen lawn o gerddoriaeth fyw anhygoel, profiadau digidol ysbrydoledig, gweithdai a digwyddiadau am ddim.

Bydd yr ŵyl yn dechrau ddydd Mercher 26 Hydref gyda seremoni’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig; gellir dadlau mai dyma ganolbwynt calendr y diwydiant yng Nghymru, gan ddathlu’r gerddoriaeth orau a grëir yng Nghymru neu gan Gymry ledled y byd. Bydd y seremoni’n cynnwys perfformiadau byw a chyhoeddi tair gwobr, gan gynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig gyfareddol ei hun.

Cynhaliwyd yr Ŵyl y Llais wreiddiol yn 2016 a 2018. Yn 2020, cyhoeddodd Canolfan Mileniwm Cymru ei bwriad i wneud yr ŵyl yn flynyddol, ac er i ŵyl y flwyddyn honno gael ei chanslo, ym mis Tachwedd 2021 fe ddychwelodd gydag 20 o gyfranwyr o bob cwr o Gymru a’r byd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru, Graeme Farrow: “Rydym wedi llunio lein-yp gwych ar gyfer Llais eleni; o’r hen stêjars i’r dalent newydd orau, o Gymru a ledled y byd, o feirdd i Paraorchestra. Ac ar ben bob dim, rydym yn hynod falch o groesawu’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig eiconig i’r ŵyl. Mae hynny’n teimlo fel y cyfuniad cerddorol perffaith.”

Mae tocynnau llais bellach ar werth yn www.wmc.org.uk/cy/llais.

RHANNWCH