Cartref digidol diwylliant Cymru.

Lisa yn lansio gyrfa solo a siarad secs

Llenyddiaeth

Mae’r cyflwynydd teledu wedi bod yn sgrifennu pytiau o ganeuon ers blynyddoedd, a’r cyfnod clo wedi rhoi’r cyfle iddi orffen un…

Wedi blynyddoedd yn cyfansoddi tameidiau o ganeuon, mae Lisa Angharad newydd ryddhau ei sengl unigol gyntaf.
Fe gafodd ‘Aros’ ei recordio ar gychwyn cyfnod y cloi mawr, ac mae hi’n gân groovy llawn egni sy’n donic yn y dyddiau rhyfedd hyn.
Eisoes yn adnabyddus am ganu yn y triawd acapela Sorela, a chyflwyno pytiau digrif a byrlymus ar raglen Jonathan, mae Lisa Angharad wedi defnyddio’r cyfnod dan glo i gychwyn gyrfa solo… ac mae hi wrth ei bodd yn cael rhyddhau ‘Aros’.
“Mae yn teimlo yn ofnadwy o gyffrous achos, yn fwy na dim byd, mae fe’n rhywbeth dw i wedi gallu cynhyrchu yn ystod lockdown,” eglura’r gantores.
“Trwy gydol y lockdown, rydw i wedi bod yn teimlo yn really useless ac yn teimlo fel bod fi ddim yn bod yn gynhyrchiol o gwbl.
“Felly mai’r ffaith fod y sengl mas yna, yn atgoffa fi bo fi wedi creu rhywbeth yn ystod y cyfnod clo…

DARLLEN MWY

RHANNWCH