Cartref digidol diwylliant Cymru.

Lily Webbe — Gabriel

Cerddoriaeth

Cân newydd Gymraeg ydy Gabriel, gan yr artist o Gaerdydd, Lily Webbe. Ysgrifennwyd y gân yn wreiddiol yn 2025 fel rhan o AffriCerdd, sef menter ar y cyd rhwng Tŷ Cerdd a’r Eisteddfod Genedlaethol sy’n cefnogi cerddorion o liw i greu cerddoriaeth newydd yn y Gymraeg. Mae AffriCerdd yn deillio o ymrwymiad y ddau sefydliad i ymgysylltu a chefnogi ystod amrywiol o grewyr cerddoriaeth i greu gwaith yn y Gymraeg.

Mae dylanwadau cerddorol Lily yn ymestyn ar draws sbectrwm eang, o ganu’r enaid, reggae ac R&B, i jazz, hip-hop, ffync, house, garage a llawer mwy.

Fel parhad partneriaeth AffriCerdd–Tŷ Cerdd â’r Eisteddfod Genedlaethol, sef cefnogi artistiaid o liw i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg, cafodd Lily ei mentora drwy gydol y broses gan yr artist blaenllaw Eädyth Crawford, a hithau wedi datblygu hyder Lily i ysgrifennu a pherfformio geiriau Cymraeg.

Dechreuodd AffriCerdd yn 2021 fel prosiect Eisteddfod Amgen, ac ers hynny mae wedi cefnogi nifer o artistiaid o liw i ysgrifennu caneuon newydd yn Gymraeg, gan gynnwys Adjua, Aisha Kigs, Frances Bolley ac Asha Jane.

Credyd fideo: Sarah Altaee

Cefnogwyd gan Gronfa Fideos PYST x S4C Music Video Fund. Wedi’i ryddhau ar Recordiau Sionci

RHANNWCH