Cartref digidol diwylliant Cymru.

LACHRYMAE: Osian Ellis. (Unawd i Delyn / Harp Solo).

CWMNI CYHOEDDI GWYNN (6038)
03/04/20
www.gwynn.co.uk
ar gael i lawrlwytho / available to download: £8.50

Mae Cwmni Cyhoeddi Gwynn yn falch o gael cyhoeddi cyfansoddiad newydd i’r delyn gan y telynor Cymreig, rhyngwladol, Osian Ellis. Cyflwynir yr unawd, ‘Lachrymae’, i Llinos, ac fe’i cyfansoddwyd pan oedd Llinos yn yr ysbyty yn derbyn trinaeth am gancr a phan oedd ei mam, Glynis, yn ei chwmni ddydd a nos am dair wythnos cyn y bu farw ym mis Tachwedd 2018, a hithau ond yn 39 oed.
Term clasurol am ‘ddagrau’ yw’r teitl ‘Lachrymae’, ac fe glywir yn y darn ofid a phoen ond hefyd hiraeth ac atgofion am blentyndod rhwng yr ebychiadau a’r gwanobeithio. Daw’r unawd i ben gyda myfyrdod tawel a geiriau Cynan o’i gerdd ‘Llanfihangel Bachellaeth’ ym meddwl y cyfansoddwr:
“…A’r grug a flodeuai yn borffor
O’th lwch yn hyfrydwch y fro.”

Caiff Osian Ellis ei gydnabod fel un o gerddorion amlycaf yr 20fed ganrif. Treuliodd dros 70 mlynedd yn perfformio ar hyd a lled y byd a chafodd yrfa lewyrchus, amrywiol a hynod o ddylanwadol. Wedi ei eni yn Ffynnongroyw a’i fagu yn Hen Golwyn, Abergele ac yna yn Ninbych, dechreuodd ganu’r delyn yn ifanc, gan gael gwersi gan Alwena Roberts, Telynores Iâl. Yn ddwy ar bymtheg oed enillodd Ysgoloriaeth Joseph Parry i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, y coleg a fyddai, maes o law, yn ei benodi’n Athro’r Delyn yno, swydd a gyflawnodd am 30 mlynedd. Yn 1960 cafodd ei benodi’n brif delynor Cerddorfa Symffoni Llundain. Treuliodd dros 30 mlynedd yn perfformio gyda’r gerddorfa, gan gyfuno’r gwaith â gyrfa ddisglair fel unawdydd ac fel telynor siambr gyda’r Melos Ensemble. Creodd nifer o gyfansoddwyr amlycaf y cyfnod, gan gynnwys Benjamin Britten, William Mathias ac Alun Hoddinott, weithiau ar ei gyfer.
Recordiodd Osian Ellis yn helaeth drwy gydol ei yrfa gan ryddhau sawl albym o gerddoriaeth o’r clasurol i’r traddodiadol Cymreig a chyhoeddodd nifer o’i gyfansoddiadau i’r delyn, gan gynnwys ei gyfansoddiad i ddwy delyn, ‘Clymau Cytgerdd’. Ac yntau newydd ddathlu ei benblwydd yn 92, dyma waith arall a fydd yn sicr o gael derbyniad gwresog gan delynorion ym mhobman.

Am ragor o wybodaeth: Gwenan Gibbard, Rheolwr Cwmni Gwynn (gwynn@gwynn.co.uk)

RHANNWCH