Oes yna unrhyw un yn dal i gredu bod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn well na’r un yn Lloegr? Os oes, mae’n amlwg nad ydynt yn un o’r 30,000 o gleifion sy’n disgwyl dros ddwy flynedd am driniaeth ar ein rhestrau aros. Does bron neb yn aros cyhyd â hyn dros Glawdd Offa, yn ôl ystadegau diweddar.
Ond Cymry ydan ni, yntê? Yn ddiolchgar fod y cyfrifoldeb am y GIG wedi ei ddatganoli i Senedd Cymru a heb gael ei reoli gan yr hen Dorïaid cas yna yn Llundain. Pris gwerth ei dalu! Tybed?
Dychmygwch fod â phen-glin neu glun hynod boenus sy’n golygu na allwch gerdded ond ychydig lathenni heb gael eich llorio. Neu fod â philen ar y llygad sy’n eich rhwystro rhag darllen neu yrru car, gan wybod bod triniaeth yn fater eithaf syml. Ac yn y blaen, ac yn y blaen. At bwy mae pobl sy’n aros cyhyd am driniaeth yn mynd pan fo’r broblem yn achosi poen corfforol neu feddyliol gynyddol iddynt? At y meddyg teulu wrth gwrs. Mae’r meddyg teulu’n gwybod yn union beth yw’r ateb, sef cael barn a thriniaeth arbenigol. Ond dydi hynny ddim ar gael, i rai, am ddwy flynedd a mwy.
Un o’r prif resymau ei bod yn anodd cael apwyntiad efo’r meddyg teulu yw bod cleifion sy’n aros am driniaeth ysbyty yn gwaelu ac yn digalonni wrth fod ar restr aros cyhyd, ac felly’n ceisio cyngor y meddyg teulu, drosodd a throsodd ar adegau. Mae eraill o’r herwydd yn methu cael gweld y cyfryw feddyg ac yn gorlethu adrannau brys ein hysbytai gyda materion nad ydynt yn ddamweiniau nac angen sylw ar frys. Felly mae’r cylch dieflig yn parhau.
Ond onid yw briwsion y Gweinidog Iechyd i fod i’n digoni? Byddwch yn ddiolchgar, bobol – mae 96% o’r rhai sy’n aros am driniaeth wedi ei chael o fewn dwy flynedd. A dyfynnu Eluned Morgan, ‘wedi cael eu gweld o fewn y “two year waiting list”’, fel petai hynny’n sefyllfa dderbyniol a chadarnhaol. Ymofyn gofal preifat y mae unrhyw un sy’n gallu fforddio gwneud hynny. Tybed fyddai llywodraeth Lafur Cymru’n fodlon cynnal ymchwiliad i faint o gleifion sydd wedi dod oddi ar restr aros y GIG er mwyn derbyn gofal o’r fath? Go brin.
Un o arbenigaethau’r GIG sydd â rhestrau aros hirfaith am asesiadau a thriniaeth yw maes iechyd meddwl. A pha ryfedd? Onid yw pob emosiwn dynol heblaw bodlonrwydd llwyr a hapusrwydd yn cael ei labelu’n broblem iechyd meddwl erbyn hyn? Fe hoffwn i gael rhoi gwers bwysig i ddisgyblion ysgol Cymru, sef bod teimlo pryder, tristwch, siom a dicter yn gwbl normal o dan rai amgylchiadau. Mae yna gleifion sy’n wirioneddol sâl oherwydd iselder, gorbryder a chyflyrau meddyliol difrifol eraill sy’n methu cael eu trin gan y GIG oherwydd galwadau cynyddol y rhai sydd ddim yn sâl go iawn. Gawn ni ddysgu gwytnwch i’n pobl ifanc, yn hytrach na’u hargyhoeddi bod teimlo’n nerfus cyn mynd i mewn i ystafell arholiad yn broblem iechyd meddwl? Y bobl ifanc yma fydd pobl broffesiynol y dyfodol, i staffio’r GIG a chynnal sawl gwasanaeth arall. Ond beth am roi sbin bositif arni, fel y byddai Eluned Morgan? Mae’n debyg na fydd gennym, cyn hir, wasanaeth iechyd gwladol ar ôl i fod angen ei staffio. Dyna un broblem y bydd Llywodraeth Cymru wedi ei datrys, yntê?