Cartref digidol diwylliant Cymru.

Iechyd Da

Llenyddiaeth

A hithau’n Wythnos Iechyd Meddwl Plant, dyma 5 llyfr i helpu plant i ddeall a thrafod materion iechyd a lles. 



 

Y Llew Tu Fewn / The Lion Inside  Rachel Bright, addasiad Eurig Salisbury 

Dyma stori gynnes ar fydr ac odl. Llygoden fach yw’r prif gymeriad sy’n ceisio ennill ei phlwyf yng nghanol yr anifeiliaid mawr! Ar ddiwedd y daith mae’n darganfod ei llais ei hun ac yn dysgu bod gan bob anifail, boed fawr neu fach, ran bwysig i’w chwarae yn y byd. 



 

Mali ar Morfil  Malachy Doyle, addasiad Mary Jones 

Mae Mali a Dylan yn deffro un bore i ddarganfod morfil ar y traeth. Mae tad Mali yn dangos iddyn nhw sut i ofalu amdano tan i’r llanw ddod i mewn. Mae Mali yn canu i’r morfil, tra bod y plant a’u ffrindiau yn gweithio gyda’i gilydd i’w gadw’n oer ac yn wlyb. Ond a fyddan nhw’n llwyddo i helpu’r morfil yn ôl i’r môr mewn pryd? 

 



Y Ddinas Uchel  Huw Aaron 

Dyma stori am Petra sy’n byw mewn dinas sy’n llawn tyrau. Mae trigolion y ddinas yn treulio bob dydd yn adeiladu eu tyrau yn uwch ac yn UWCH. Ond mae Petra yn herio ac yn cwestiynu’r drefn ac yn dyheu am rywbeth mwy. Un o negeseuon y stori yw bod rhyfeddodau lu i’w canfod o’n cwmpas ym mhob man, dim ond inni fentro a mynd ati i chwilio.  

 




Pobol Drws Nesaf  Manon Steffan Ros 

Mae teulu (sy’n digwydd bod yn êliyns) piws wedi symud drws nesaf i deulu gwyrdd (sydd hefyd yn êliyns!). Mae’r bobol biws yn eithaf gwahanol i’r bobl wyrdd; yn ogystal â lliw eu crwyn, mae eu tŷ yn wahanol, maen nhw’n bwyta pethau gwahanol ac maen nhw’n siarad iaith wahanol. Er  gwaetha’r holl wahaniaethau, mae’r ddau fachgen yn hoff o bêl-droed ac yn datblygu cyfeillgarwch agos drwy rannu’r un diddordeb. Dyma stori sy’n dathlu gwahaniaethau, gan ein hatgoffa fod gan bawb bethau yn gyffredin a’i gilydd hefyd. 



 

Sgramblo – Huw Davies 

Mae’r ‘disgybl perffaith’ pedair ar ddeg mlwydd oed, Davidde, yn byw gyda’i dad ar ôl i’w fam farw. Mae ei dad yn gwneud ei orau, ond pan fo prifathro newydd yn dechrau yn ei ysgol, mae’n cyhuddo Davidde o fod yn ddisgybl trafferthus. Dydy ei athrawon ddim yn hapus pan mae Davidde yn dechrau ymddiddori mewn sgramblo beiciau modur, ond trwy hyn mae’n mynd i’r afael â bwlis yr ysgol, yn ennyn parch ei dad ac yn datrys dirgelwch y Marchog Du. 

Caiff cynllun Iechyd Da ei lansio ddydd Mercher 3 Chwefror 2021. 



Gan gydweithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru, mae Adran Addysg Llywodraeth Cymru yn ariannu pecyn o 41 o lyfrau i bob ysgol i helpu plant i ddeall a thrafod materion iechyd a lles.  



Y nod yw cefnogi ysgolion wrth iddyn nhw ymdrin â phynciau’n ymwneud ag iechyd a lles fel rhan o’r cwricwlwm newydd, ac i gynorthwyo athrawon i drafod y pynciau yma yn ystod cyfnod heriol dros ben. 



Mae’r llyfrau hefyd ar gael o’ch siop lyfrau leol. 

Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leol YMA. 

RHANNWCH