Cartref digidol diwylliant Cymru.

Hollol Wych gan Iwan Davies

Actorion/Actors: Manon Wilkinson a Iwan Charles
Criw/Crew: Griff Lynch, Caryl McQuilling, Richard Roberts a Iwan Standley
Cyfarwyddo/Director: Emmy Stonelake

Wedi’r pandemic, daeth y milwyr. Bu gwrthryfel, wrth gwrs, ond buan iawn y goresgynnwyd y wlad gan luoedd yr Arlywydd Johnson. Chwe mis o ryfel guerilla, cyn arwyddo Cyfaddawd Casnewydd yn 2023, gan gadarnhau safle Cymru tu fewn i Brydain Newydd – gan waredu S4/C, Radio Cymru a’r wasg, a chyfyngu’r iaith Gymraeg i brifysgolion ac amgueddfeydd yn unig.

Ond, bob nos, mewn gwahanol leoliad, mae’r gwrthdystio’n parhau, a hynny trwy ddarllediad tanddaearol o’r rhaglen nosweithiol ‘Diwedd y Dydd’. Dan y fath amgylchiadau, sut ydyn ni’n penderfynu adrodd ein stori ni?

RHANNWCH