Mae Hijinx wedi lansio ei ŵyl ar-lein gyntaf erioed, Hijinx Ar-lein - gŵyl theatr a ffilm rhad ac am ddim.
Er mwyn cysylltu â chynulleidfaoedd yn ystod y broses gloi yma, bydd Hijinx yn rhannu sioeau archif a deunydd newydd sbon, gan gynnwys y dangosiad cyntaf erioed The Matthew Purnell Show - ffilm mae llawer o’n hactorion rhyfeddol Hijinx yn serennu ynddo!
O 27 Ebrill, bydd Hijinx yn rhyddhau sioe theatr bob dydd Llun am 12y.p., a bydd ar gael am wythnos. Bob Dydd Iau am 4y.p., bydd rhaglen fyw holi ac ateb gydag artistiaid/ tîm cynhyrchu’r sioeau, gan gynnwys sgyrsiau gyda rhai o bartneriaid a chyd-gynhyrchwyr Hijinx: Mark Downs (Cyfarwyddwr Artistig yn Blind Summit), Toby Park (Cyfarwyddwr Artistig Rheoli yn Spymonkey) a Scott Graham (Cyfarwyddwr Artistig yn Frantic Assembly).
I ddod o hyd i rhaglen yr ŵyl, cliciwch ar y ddolen uchod.
Ar gyfer rhaglenni byw holi ac ateb a gweithdai, gellir cael mwy o fanylion a dolenni at ystafelloedd sgrinio ar Facebook. Fe allech chi hefyd cadw lan gyda gwybodaeth perthnasol trwy ein dilyn ni ar Instagram, Facebook a Twitter.