Pryd oedd y tro cyntaf i ti fod yn ymwybodol o dy iechyd meddwl dy hun, neu iechyd meddwl fel pwnc yn gyffredinol?
Y tro cynta’ i fi ddod yn ymwybodol o iechyd meddwl o’dd pryd o’n i’n byw bant yn y brifysgol, yn rhannu tŷ afiach gyda 5 bachgen, ddim yn edrych ar ôl fy hun yn dda iawn, yn becso gormod am greu gwaith perffaith a mewn perthynas anhapus. Na’r tro cynta i fi fynd ar anti-depressants ac o nhw’n grêt. O’n i ‘mond arnyn nhw am gwpwl o fisoedd ond fi’n cofio nhw’n rili gweithio – fel tase nhw’n rhoi stop i’r dagrau ac yn rhoi cyfle i fi feddwl yn glir er mwyn sortio popeth mas heb ormod o emosiwn.
O’n i ddim yn deall ar y pryd ond o’n i’n dioddef o anxiety – ers o’n i’n fach rili – ac o’n i’n meddwl bod e’n hollol normal i deimlo ofn pob dydd, i adael pobl a digwyddiadau cal cyment o effaith arna’i. Os nag oedd rhywun yn dangos bo’ nhw wrth eu boddau ‘da’ fi, e.e. ddim yn gwenu neu’n bod yn hollol amlwg o neis, bydden i’n bendant bo’ nhw’n ‘nghasáu i. Sai’n teimlo fel ‘na rhagor.
Ma dysgu am boundaries wedi helpu lot – ma hawl ‘da pob un person dweud ‘na’ a beth ma nhw’n hapus neud neu beidio. ‘Sdim rhaid i weud ‘na’ fod yn ddramatig chwaith, ma modd dweud e mewn ffordd cariadus.
Alli di egluro beth sy’n mynd trwy dy feddwl neu beth sy’n digwydd i ti pan fydd dy iechyd meddwl ar ei waethaf?
Ma gennai endometriosis ac mae’n troi mas bo depression yn gallu bod yn un o’r symptomau – wedi’r cyfan ma delio ‘da gyment o boen mis ar ôl mis yn gallu amharu gyment ar fywyd. Fi ‘di gorfod canslo trefniadau ‘da ffrindie, misso gwaith, priodasau, gwyliau – mae’n llythrennol golygu bo’ fi’n misso mas ar ¼ o’m mywyd i. Bydde’n naturiol neud unrhyw un i deimlo’n isel. Y ffaith bod ‘na ddim moddion a hefyd bod doctoriaid ddim yn credu menywod pa mor wael yw e. Ma’ fe’n gallu hala ti’n benwan! Felly pryd mae’n taro, ma’r syniad bod hwn byth yn mynd i wella yn un eitha tywyll.
Pryd mae’n dod i’r anxiety – ma na bethau bach yn gallu ‘triggro’ fe e.e teimlo fel bod rhywun ddim yn credu be fi’n dweud, neu’n anwybyddu fi. Fi’n siŵr bod e’n dod o’r ffaith i fi gael fy anwybyddu am gyment o flynydde gan ddoctoriaid pryd o’n i mewn cyment o boen – ers o’n i’n tua 16 a ges i ‘mond diagnosis pryd o’n i’n 37. O nhw wastad yn dweud wrtha’i bod periods fod yn boenus. Ond dyw nhw ddim. Ma na gyment o iechyd menywod dyw nhw ddim yn trafferthu ymchwilio.
Oes gen ti brofiad o dderbyn cymorth proffesiynol ar gyfer dy iechyd meddwl? Pa fath o gymorth, a sut brofiad oedd hwn?
Oes ac mae di bod yn life saver. Dwi di cal amryw o counselling dros y blynydde ond mond yn y flwyddyn diwetha dwi di ffeindio rhai dwi wir yn gwerthfawrogi. Fi’n credu achos nawr dwi di darganfod y rheswm am yr iselder. Ac o’n i di gal llond bol ar fynd i gal cymorth a hwnnw ddim yn helpu ar ôl i fi dalu gyment o arian.
Y tro ‘ma nes i wneud ymchwil er mwyn penderfynu beth yn gwmws bydde’n helpu fi. Dwi di dysgu sai’n lico’r Freudian psychotherapy ‘ma ble dyw nhw ddim yn siarad i ti, ‘mond yn cymryd nodiadau ac ma fe’n eitha’ intense. Ma llawer gwell ‘da fi gal chat gyda rhywun lyfli.
O’n i’n gwybod bo’ fi ishe rhywun o’dd ‘da profiad o ddelio gyda trauma hefyd felly nes i ddysgu bod EMDR yn gallu helpu ‘da hwnna. Felly nes i restr o bobl o’dd yn cyfuno EMDR a talk therapy a rhoi galwad i bob un er mwyn gal chat cloi, gofyn beth o nhw’n neud, sut o nhw’n gweithio, egluro beth o’n i ishe help ‘da a gweld os galle nhw helpu. Nes i weld pwy o’n i’n clicio ‘da a dyna sut ddewises i’r counsellor gorau dwi di gal erioed.
Wyt ti’n teimlo bod derbyn therapi drwy gyfrwng dy ail iaith wedi cael unrhyw effaith, cadarnhaol neu negyddol, ar y cymorth?
Mae’n od achos ma cal therapi yn rywbeth dwi wastad wedi cysylltu â’r iaith Saesneg. Pryd dwi’n mynd i therapi ma fe’n ddigon anodd weithiau ffeindio’r geiriau i ddisgrifio sut fi’n teimlo yn Saesneg – iaith ble dwi wedi arfer a thrafod stwff fel ‘subconscious triggers’ a ‘fear of abandonment’ achos bo’ fi di clywed amdanyn nhw ar raglenni teledu fel Dawson’s Creek. Sa’i erioed ‘di gweld y fath na o bethau’n cal eu trafod yn y Gymraeg felly ‘sdim ‘da fi’r geirfa.
Ma Cymraeg yn iaith famol iawn i fi a sai’n siŵr os bydde trafod materion mor ddofn yn hala fi lefain! Ma’ na bellter tra’n defnyddio Saesneg. Er, beth sy’n ddiddorol, pob tro bydda’i a’n ffrindiau’n trafod rhywbeth personol ni’n troi i’r Gymraeg. Ma fe’n teimlo’n saffach rhywsut rhwng hen ffrindie. Ond mewn therapi? Na.
Sut wyt ti’n ymdopi o ddydd i ddydd? Oes unrhyw beth penodol wyt ti’n ei wneud o ran hunanofal?
Fi’n ceisio cal routine. Dihuno, neud y gwely, stretsho, sgwennu am 20 munud, brecwast, sgwennu ‘to.
Symud ‘nghorff i bob dydd naill ai trwy fynd am wâc neu ar y beic.
Gwario amser i ffwrdd o’r ffôn ac mewn natur, neu yn gwau neu’n neud un peth neis ar y tro, e.e. coginio hoff bryd o fwyd.
Gweithio am 50 munud ar y tro, brêc o 10 munud.
Fi’n trial byta tri pryd o fwyd a snac pob dydd. Osgoi gormod o siwgr, caffeine a gluten.
Wastad yn gofyn ‘Beth sydd angen arna’i? Bwyd, diod, cwsg, awyr iach, symud y corff?’
Cysylltu â phobl – naill ai’n wyneb yn wyneb neu siarad dros y ffôn – hyd yn oed am 5 munud y dydd.
Rhestri o leia 3 peth bach bach dwi’n ddiolchgar am bob nos.
Beth sydd rili di bod yn helpu fi’n ddiweddar yw i ofyn ar ddechre pob dydd ‘Be’ allai neud i helpu heddi?’ Mae’n hunanol iawn ond ma neud rhywbeth – hyd yn oed rhywbeth bach – a gofyn i rywun diarth os ma’ nhw’n oce, cynnig mynd i’r siop i rywun drws nesa’ neu just ffonio rhywun sy’ falle’n teimlo’n unig. Ma’ fe’n rili helpu ti teimlo’n connected a fel bo ti’n rhan o rywbeth mwy’ pwysig.
Ydy dy iechyd meddwl wedi effeithio ar dy yrfa mewn unrhyw ffordd?
Ma cal endometriosis yn bendant wedi effeithio faint o waith o’n i’n gallu neud. Pryd o’n i’n dioddef dros y blynyddoedd o’dd y poen yn golygu o’dd rhaid i fi gymryd tua wythnos bant pob mis. Diolch byth rwy’n gallu sgwennu o ngwely i. Ma fe di bod llawer gwell ers i fi gal llawdriniaeth a fi’n ceisio dilyn anti-inflammatory diet a neud ymarfer corff i helpu. Ond am flynydde bydde’n i’n gal brain fog ble o’n i ffili canolbwyntio a wedyn bydde’n i’n beio fy hunan am fod yn hurt heb wybod beth o’dd yn digwydd yn ‘nghorff i.
Fi fod osgoi stress a felly ma’n swydd i – nosweithu hwyr, sgwennu rownd y cloc er mwyn cyrraedd deadlines – ddim wastad wedi galluogi hwnna. O’dd e’n eitha anodd pryd o’n i’n perfformio sioe comedi byw dyddiol yng Ngŵyl Comedi Caeredin! Beth sydd yn ddiddorol fi’n credu yw nes i ddatblygu’r sgil o fod yn ddoniol a chwerthin lot fel ffordd o ddelio ‘da’r tension pryd o’n i’n fach, a fi dal yn ffeindio pethe itha tywyll yn ddoniol. Felly mewn ffordd od iawn ma fe wedi helpu’ ngyrfa i ‘fyd.
Darllenwch fwy ar wefan meddwl yma