Nid perfformiad cyffredin mo HAMLETMACHINE gan Volcano. Gan amlygu’n llawn cartref ceudyllog y cwmni mewn hen archfarchnad ar y Stryd Fawr, mae HAMLETMACHINE yn daith ryfeddol, o amgueddfa chwilfrydedd erchyll i ardd o hyfrydwch; trwy goridorau grym a phleser i ddwnsiwn malurion. Gan gymysgu perfformiad byw ac arddangosfa ryfedd gydag elfennau rhyngweithiol a synhwyraidd, mae HAMLETMACHINE yn brofiad syfrdanol, doniol a hyfryd o annifyr i gynulleidfaoedd.
Fy mhrif ddiddordeb pan fyddaf yn ysgrifennu dramâu yw dinistrio pethau. Ers tri deg o flynyddoedd mae Hamlet wedi bod yn obsesiwn i mi, felly ysgrifennais destun byr sef, Hamletmachine, lle ceisiais fynd ati i ddinistrio Hamlet. […] Fy mhrif ysgogiad yw cwtogi pethau i lawr at yr ysgerbwd, rhwygo eu croen a’u cnawd. Yna, byddaf wedi gorffen efo nhw. HEINER MÜLLER
Ein tasg gyntaf oedd chwalu beth oedd wedi’i adeiladu eisoes. Ar adegau, gwnaed y broses chwalu hon yn ofalus. Ar adegau eraill, byddai’r ddrama neu’r testun yn disgyn i’r llawr yn ddiofal – roedd anafiadau, a chryn dipyn o waith glanhau i’w wneud. PAUL DAVIES
Radical Classic™ gan Volcano