Cartref digidol diwylliant Cymru.

Haf o Ddarllen

Llenyddiaeth

Chwilio am lyfrau i blant a phobl ifanc ar gyfer yr haf?

Dyma ambell awgrym!


Yn gynnar yn y Bore & Dim Chwarae, Mot! – Lawrence Schimel, dar. Elïna Braslina, addas. Mari Siôn, Elin Haf (Canolfan Peniarth)

Dyma ddau lyfr bwrdd bach annwyl tu hwnt am blant ac anifeiliaid direidus sydd yn anwybyddu amser gwely ac amser deffro ! Bydd y plant ifancaf wrth eu boddau â’r darluniau lliwgar a llachar ac eisiau darllen y llyfrau yma drosodd a throsodd a thro.

Chwilio am Smot yn yr Ysbyty – Eric Hill, addasiad Elin Meek (Dref Wen)

Mae’n bryd ymweld â Tom yn yr ysbyty… ond ble mae Smot? Chwilia y tu ôl i bob llabed i weld pob math o bethau annisgwyl!

Anturiaethau Mistar Urdd – Mared Llwyd, dar. Sioned Medi Evans (Y Lolfa)

I gyd-fynd â chanmlwyddiant yr Urdd, dyma lyfr cyntaf Mistar Urdd, a hwnnw’n dair stori ar ffurf nofel graffig. Mae’n llyfr lliwgar, ysgafn a hwyliog sy’n berffaith ddarllenwyr ifanc.

Cnwcyn a’i Ffrindiau – Meinir Pierce Jones, dar. Thom Morgan (Atebol)

Cnocell y coed yw Cnwcyn sy’n byw mewn coedlan hyfryd. Mae bywyd yn braf i Cnwcyn a’i ffrindiau hyd nes bod ymwelwyr â’r ardal yn newid eu bywyd yn llwyr! Stori hyfryd sy’n ymwneud â chyfeillgarwch a sut mae pawb, drwy gydweithio â’i gilydd, yn ennill y dydd.

Nofia, Siarc, Nofia! – Dom Conlon, dar. Anastasia Izlesou, addas. Anwen Pierce (Graffeg)

Nofia gyda Siarc er mwyn dod o hyd i gefnfor o gwrel cynnes a chartef, ac er mwyn darganfod llond cyfrol o fywyd dyfrol mewn stori delynegol am un o grwydrwyr gwyllt y byd.

Gwyddoniadur Geiriau Stem – Jenny Jacoby, addas. Joshua Head, Llewellyn Goff (Rily)

Wedi’i drefnu yn nhrefn yr wyddor, a phob tymor wedi’i ddarlunio gyda hiwmor a swyn, mae’r 100 cysyniad hanfodol yn siŵr o swyno darllenwyr ifanc wrth egluro diffiniadau gwyddonol, o’r Yangchuanosaurus arswydus a hyd yn oed y gwir ddiffiniad o Sero!

Ga’ i fyw adra? – Haf Llewelyn (Gwasg Carreg Gwalch)

Dyma stori dda gan awdur sydd yn gwybod sut i sgwennu i’w chynulleidfa – arddegwyr (ac unrhyw un hŷn) yn yr achos yma. Mae’r nofel hon, fel mae’r teitl yn ei awgrymu, yn mynd i’r afael ag ail gartrefi a pha mor anodd yw hi i bobl aros yn eu cymunedau. Mae wedi gosod yn yr 80au ond bydd popeth yn gyfarwydd iawn i ddarllenwyr iau, ac i’r rhai sy’n cofio bydd y nostaljia yn amlwg.

Y llyfrau hyn a llawer mwy ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol

Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leol YMA.

RHANNWCH