Hanes y twrch bach oedd am wybod pwy oedd wedi gwneud am ei ben
Werner Holzwarth (Gomer)
Llyfr stori-a-llun am un o hoff bynciau trafod plant bach ledled y byd … pw! Dyma stori dditecif ddoniol sy’n dilyn Twrch Bach wrth iddo geisio darganfod pa anifail oedd wedi gwneud am ei ben un bore. Mae’r gyfrol yn un o glasuron plant yr Almaen ers tri deg o flynyddoedd, gan werthu dros dair miliwn o gopïau. Mae wedi’i chyfieithu i sawl iaith, a Bethan Gwanas sydd wedi ei throsi’n gampus i’r Gymraeg. Dyma lyfr perffaith i’w ddarllen yn uchel, a stori fydd, yn ddi-os, yn arwain at lond bol o chwerthin i blant ac oedolion fel ei gilydd.
Tylwyth
Dafydd James (Y Lolfa)
Roedd cryn edrych ymlaen at gydgynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Sherman o Tylwyth, dilyniant Daf James i’w ddrama ddyrchafol, Llwyth. Yn sgil y cyfnod clo, bu’n rhaid gohirio’r daith wedi ambell berfformiad yn unig. Wrth i ni aros i’r theatrau ailagor, dyma gyfle i gael yr hanes rhwng dau glawr.
Mae Aneirin, prif gymeriad y ddrama, bellach yn ŵr i Dan ac wedi mabwysiadu dau o blant. Ond eto, mae ei ofnau duaf yn dychwelyd. A thra bod darllen drama ddim yn rhoi’r un profiad â gweld cynhyrchiad byw ar lwyfan, ni fydd darllen y sgript ddwys a doniol hon, gyda’i chwestiynau am fywyd a hunaniaeth gan y dewin geiriau Daf James, yn siomi.
Dal i Fod
Elin ap Hywel (Barddas)
Dyma’r casgliad cyflawn cyntaf o holl gerddi Elin ap Hywel, bardd ffeministaidd sy’n gosod menywod a’u lle yn y byd wrth galon ei gwaith. Mae ei cherddi’n barod i herio a chwestiynu traddodiad, a hynny drwy ei chanu telynegol, sydd hefyd yn bryfoclyd ar brydiau.
Fel nododd Grug Muse mewn adolygiad o’r gyfrol ar Gwales, “Mae yna obaith yng ngherddi Elin ap Hywel, am Gymru lai ofnus, am Gymreictod llai bregus, ac am bethau sy’n cael eu torri, ac o’u trwsio, eu gwneud yn bethau gwell.”
Enwau Cymru ac Enwau’r Cymry
D. Geraint Lewis (Gwasg Carreg Gwalch)
Wedi cael trafferth darllen llyfrau swmpus dros y cyfnod clo? Wedi cael eich cywilyddio mewn cwis Zoom teuluol? Efallai mai dyma’r llyfr i chi! O fewn y gyfrol ceir rhestrau, nodiadau ac esboniadau difyr, gan gynnwys ‘Yr Enwau Plant Mwyaf Poblogaidd’, ac ‘Enwau a Chyfenwau yn deillio o ffurfiau Cymraeg’.
Dysgwch fwy am enwau lleoedd a’u hystyron gwahanol, gan ryfeddu teulu a chyfeillion gyda’ch ffeithiau difyr ac annisgwyl.
Mae ’na wledd o lyfrau newydd ar gael yn eich siop lyfrau leol.
Porwch drwy ein catalog Haf o Ddarllenam ysbrydoliaeth.