Cartref digidol diwylliant Cymru.

Gwylio’r Glannau – Lauren Heckler

Creais y ffilm hon i ddangos y rôl bwysig y mae Gwasanaeth Achub Gwylwyr y Glannau yn ei chwarae yn ein pentref arfordirol, gwledig , a gwerth seilwaith cymunedol a hyfforddiant proffesiynol, ynghyd â gwybodaeth leol.

Mae Tîm Achub Gwylwyr y Glannau Llansteffan yn cynnwys pentrefwyr ac unigolion sy’n byw yn yr ardal gyfagos, yn aml yn ogystal â swydd ddyddiol. Maent yn wasanaeth brys golau glas categori 1, a reolir gan yr Adran Drafnidiaeth, gan gyfuno gweithrediadau gwirfoddol a rhai a ariennir. Mae Swyddogion Achub Gwylwyr y Glannau yn cydweithio ar draws y gwasanaethau brys, ac yn defnyddio amrywiaeth o asedau chwilio ac achub o amgylch yr arfordir, gan gynnwys cychod achub Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, hofrenyddion a hofranlongau chwilio ac achub, ac amrywiaeth o ymatebwyr eraill, mewn ymateb i argyfyngau.

Mae gan ‘Gwylio’ ystyr ddeuol o ‘wylio’ a ‘diogelu’. Ond beth yw dyfodol diogelu lleoedd glan môr fel Llansteffan? Mae dyfodol cymdeithasol ac economaidd y pentref yn ansicr, rydym yn agored i niwed gan newid hinsawdd, poblogaeth sy’n heneiddio, cynnydd mewn ail gartrefi, ac adnoddau cyhoeddus yn cael eu cau.

Daw pobl i’r glannau am eu harddwch, i ddianc, ymlacio neu i fywiogi, ac mae angen mawr am hyn. Ond mewn cyfnodau o argyfyngau cymdeithasol ac amgylcheddol, dim ond cynyddu mae’n debyg fydd nifer yr argyfyngau, ac yr angen am Wylwyr y Glannau.

Er mwyn i bawb allu parhau i fwynhau Llansteffan, rhaid i’r gymuned a’i gwasanaethau ffynnu. Rwy’n gobeithio mai’r rhaglen ddogfen hon fydd y gyntaf mewn cyfres sy’n archwilio’r themâu hyn.

Diolch yn fawr iawn i bawb a roddodd eu hamser i mi rannu’r stori hon.

 

Cafodd y ffilm hon ei chynhyrchu mewn amgylchedd hyfforddi, ni chofnodwyd unrhyw ddigwyddiadau byw.

 

Dilynwch Lauren ar Instagram yma.

 

Comisiynwyd ‘Gwylio’r Glannau’ yn rhan o AmCam2, gŵyl ffilmiau ddigidol, gymunedol Am. Cefnogwyd AmCam gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

 

RHANNWCH