Oni bai fod newid buan ac arwyddocaol yn y rhagolygon barn, mae pob argoel y bydd y Blaid Lafur Gymreig yn wynebu chwalfa etholiadol ym Mai 2026. Ac nid oes ganddi chwaith na’r bobl na’r syniadau i ymgodymu â’r fath sefyllfa ac i ailadeiladu ei grym gwleidyddol.
Dwn i ddim beth mewn gwirionedd yr oeddwn i wedi ei ddisgwyl. Rhyw fath o ddrama fawr, mae’n siŵr. Ymdeimlad ingol o argyfwng neu gyffro. Synnwyr o fod yn byw trwy gyfnod o newid sylfaenol ac arwyddocaol. Efallai y daw hyn i gyd ymhen y rhawg – unwaith y bydd y pleidleisiau wedi cael eu cyfrif a’r canlyniadau wedi’u cyhoeddi. Ond ar hyn o bryd, o leiaf, yr hyn sy’n taro dyn yw pa mor ferfaidd a digyffro yw’r profiad o fod yn llygad-dyst i dranc y Blaid Lafur Gymreig fel y grym dominyddol yng ngwleidyddiaeth ein gwlad.
Ar ôl canrif lle bu’r blaid honno’n sgubo popeth o’i blaen, gan gynnwys ennill 84% o’r etholaethau Cymreig yn etholiad cyffredinol Prydain dim ond y llynedd, mae’r argoelion i gyd yn awgrymu bod Llafur bellach yn wynebu chwalfa o faintioli hanesyddol. Ar y lefel ddatganoledig, ymddengys fod y blaid wedi syrthio i’r trydydd safle o ran bwriadau pleidleisio. Yn wir, yn y ddau arolwg barn diweddaraf y byddwn yn barod i ymddiried ynddynt, roedd cefnogaeth Llafur wedi syrthio i ddim ond 18%. Gan ddefnyddio’r model a ddyfeisiwyd gan fy nghydweithiwr Jac Larner, mae hynny’n awgrymu mai dim ond rhyw ddeunaw o Lafurwyr fydd yn cyrraedd y Senedd newydd, a hynny er gwaetha’r ffaith fod deddfwrfa Cymru ar fin ehangu o 60 i 96 aelod. Mae disgwyl arolwg barn Cymreig newydd gan ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd bythefnos ar ôl i’r rhifyn yma o BARN ddod o’r wasg. Y perygl gwirioneddol o safbwynt Llafur yw y byddant wedi plymio hyd yn oed yn is erbyn hynny.
Mae’r rhagolygon yn waeth fyth ar gyfer San Steffan. Mae’r ffaith fod Senedd Cymru’n cael ei hethol trwy bleidlais gyfrannol yn cynnig rhyw fath o achubiaeth i Lafur yno, ond nid felly’r system bleidleisio cyntaf-i’r-felin a ddefnyddir ar gyfer Tŷ’r Cyffredin. Felly, yn ôl yr arolwg enfawr a gyhoeddwyd gan gwmni YouGov ddiwedd mis Mehefin, petai etholiad cyffredinol wedi’i gynnal bryd hynny, yna dim ond pedwar Aelod Seneddol Llafur fyddai wedi cael eu dychwelyd o Gymru. Ie, wir i chi – pedwar!
Gan bwysleisio aruthredd y daeargryn gwleidyddol sydd ar ein gwarthaf, roedd yr arolwg yn rhagweld y byddai tri o’r pedwar yma’n cynrychioli seddau yng Nghaerdydd gyda dim ond un etholaeth yn y cymoedd ôl-ddiwydiannol yn ethol cynrychiolydd Llafur, sef Blaenau Gwent a Rhymni. Ond o gofio bod darogan y canlyniad yno’n cael ei gymhlethu gan y ffaith mai honno oedd yr unig etholaeth yng Nghymru heb ymgeisydd Reform yn etholiad 2024, rwy’n tybio ei bod yn annhebygol iawn y byddai Llafur yn llwyddo i ddal ei gafael yno wrth golli pob un o’i hetholaethau eraill yn y cymoedd. Mewn byr eiriau, plaid Caerdydd fyddai’r blaid Lafur yng Nghymru gyda gwyrddlas plaid ddiweddaraf Nigel Farage yn diorseddu coch Llafur yn llwyr yng nghyn-gadarnleoedd y blaid.
Eto fyth, er gwaetha’r holl dystiolaeth sy’n tanlinellu difrifoldeb y bygythiad sy’n ei hwynebu, mae’r Blaid Lafur Gymreig fel petai’n gwbl ddiymadferth. Yn sicr, fe fydd y sawl ohonom a deithiodd i Landudno ar gyfer ei chynhadledd flynyddol ddiwedd fis Mehefin yn ymwybodol fod Llafur yn hesb o ran syniadau. Roedd araith y Prif Weinidog, Eluned Morgan, yn gybolfa lwyr o ystrydebau a oedd, i’r graddau nad oeddynt yn gwbl ddiystyr, yn aml yn gwrth-ddweud ei gilydd yn llwyr. Wrth geisio cymodi rhwng y gwahanol garfanau oddi mewn i’w phlaid – y Cymreig a’r Prydeinig, y radicaliaid a’r rheini sy’n deyrngar i’r arweinyddiaeth yn Llundain doed-a-ddelo – fe lwyddodd i syrthio rhwng pob stôl. Mewn difrif calon, mae’n anodd credu y byddai unrhyw un nad oedd eisoes yn y gorlan wedi gwrando arni ac na fyddent wedi dod i’r casgliad nad oes gan y llywodraeth Lafur bresennol unrhyw beth, bellach, i’w gynnig i Gymru. Ond fel y gallwch gadarnhau eich hunain trwy wylio ar-lein, os rhywbeth roedd araith yr Ysgrifennydd Gwladol, Jo Stevens, yn yr un gynhadledd hyd yn oed yn waeth. O wrando arni, ymddengys mai dim ond cwta flwyddyn oedd ei angen i Syr Keir a Rachel Reeves sicrhau mai Cymru yw gwlad y llaeth a’r mêl… Gorfoleddwn!
Tabl: Cynrychiolwyr etholedig Llafur yn seneddau Caerdydd a Llundain ar ôl yr etholiadau nesaf – wedi’u hamcangyfrif ar sail arolygon barn diweddar
| Y grŵp Llafur yn Senedd Cymru | Y grŵp Llafur o Gymru yn Nhŷ’r Cyffredin |
| Lynne Neagle | Jo Stevens |
| Rhianon Passmore | Nick Smith |
| Jayne Bryant | Anna McMorrin |
| Alun Davies | Stephen Doughty |
| Vikki Howells | |
| Huw Irranca-Davies | |
| Buffy Williams | |
| Sarah Murphy | |
| Jeremy Miles | |
| Mike Hedges | |
| Ken Skates | |
| Hannah Blythyn | |
| Ynghyd â 6 arall… |
Siawns nad yw gwendidau arweinwyr presennol y Blaid Lafur yng Nghymru’n amlwg. Ond yr hyn a ddylai fod yn destun gofid mawr i unrhyw un yn y blaid honno sy’n meddwl ymhellach na’r etholiadau nesaf yw ansawdd tebygol eu cynrychiolwyr yn seneddau Caerdydd a Llundain yn y dyfodol – oni bai, wrth gwrs, fod tro ar fyd ym mhoblogrwydd y blaid a’i rhagolygon etholiadol. Gan fod Llafur wedi penderfynu rhoi blaenoriaeth i’w chynrychiolwyr presennol yn y Bae wrth lunio ei rhestrau ymgeiswyr ar gyfer yr 16 etholaeth newydd, yna – gyda chefnogaeth y blaid wedi syrthio i lefelau mor isel – mae’n bosibl rhagweld pwy fydd y mwyafrif o’r enwau fydd yn y grŵp Llafur yng Nghaerdydd wedi 7 Mai 2026. Rwyf wedi eu nodi yn y tabl. Ynddo hefyd fe nodir pwy o blith yr Aelodau Seneddol Cymreig presennol yn San Steffan all ddisgwyl cadw eu seddau os yw’r arolygon yn parhau’n ddigyfnewid (gan gynnwys Blaenau Gwent a Rhymni yn y golofn Lafur i’r pwrpas yma).
Heb ddymuno bod yn angharedig, go brin y byddai llawer o sylwebwyr yn anghytuno â dyfarniad i’r perwyl fod y rhestr hon o enwau ar gyfer y Senedd Gymreig nesaf yn cynnwys cyfran go helaeth o’r aelodau gwannaf un yn y grŵp Llafur presennol. Mae ambell i eithriad prin, wrth gwrs. Mae Jeremy Miles yn gyfathrebwr rhugl, yn weinidog abl ac ar bapur yn olynydd tan gamp i Eluned Morgan, a fydd yn ei chael hi’n anodd, anodd cael ei hethol yn un o chwe aelod Ceredigion Penfro. Ond, wrth gwrs, y tebygrwydd yw y bydd y grŵp Llafur yn y senedd nesaf hefyd yn cynnwys rhai o gefnogwyr mwyaf pybyr a digymrodedd Vaughan Gething, a does dim golwg o gwbl fod y rheini’n barod i faddau i Miles am ei bechodau tybiedig heb sôn am syrthio ar eu bai eu hunain yn cefnogi ymgeisydd mor ffaeledig.
Go brin, chwaith, y gallwn ni ddisgwyl llawer gan y dyrnaid o ymgeiswyr newydd sy’n debyg o gyrraedd rhengoedd y grŵp Llafur nesaf. Nid dim ond Owain Williams druan sydd wedi’i ganfod ei hun yn cael ei all-gau gan yr apparatchiks hynny sydd wrthi’n ddiwyd y tu ôl i’r llenni yn sicrhau mai dim ond teyrngarwyr di-liw fydd yn cyrraedd brig y rhestrau. Ac o ran Llafur yn San Steffan, y cwbl sydd angen ei ofyn yw hyn: a oes unrhyw un yn credu mewn difrif y byddai’r gwleidyddion yma’n abl i ailadeiladu’r blaid fel grym torfol a gwirioneddol genedlaethol yng Nghymru wedi chwalfa etholiadol? Go brin.
- • •
Na, hyd yma o leiaf, nid oes dim yn ddramatig am drai’r Blaid Lafur Gymreig. Yn hytrach na rhyw fath o ffrwydrad mawr, mae’r gwynt fel petai’n diflannu’n dawel ac yn ddigyffro o’i swigen gan adael o’i ôl blaid sy’n gwbl fflat a diymadferth. Ac o golli ei goruchafiaeth, nid oes unrhyw olwg, chwaith, fod ganddi na’r syniadau na’r bobl a fyddai’n gallu adfer y sefyllfa.
Mae’n deg dweud, wrth gwrs, fod yna amser i bethau newid a hynny’n enwedig o ran bwriadau pleidleisio San Steffan. Eto, ni ddylid diystyru’r posibilrwydd y gallai pethau waethygu ymhellach i Lafur. Mewn termau gwleidyddol mae’r rhain yn ddyddiau cwbl ddigynsail. Boed ni’n ymwybodol o’r peth neu beidio, rydym yn byw trwy gyfnod o newid hanesyddol.
Richard Wyn Jones