Cartref digidol diwylliant Cymru.

Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol y Llygad

Mae Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol y Llygad yn dychwelyd i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar yr 16eg a’r 17eg o Hydref 2021 gyda rhaglen lawn o weithdai, anerchiadau ac arddangosfeydd.

Mae uchafbwyntiau’r ŵyl yn cynnwys anerchiadau gan y ffotograffwyr adnabyddus Lalage Snow, Vanley Burke, Laura El-Tantawy, Nicola Muirhead, Dafydd Jones, a Mary Turner, yn ogystal â gweithdai arbenigol, a’r cyfle i fynychwyr yr ŵyl drafod eu portffolios gyda rhai o olygyddion lluniau a ffotograffwyr gorau’r byd.

Bydd tocynnau ar gael i fynychu’r ŵyl mewn person neu ar-lein, diolch i bartneriaeth newydd gyda Culture Colony, gyda ffrydio byw o’r holl anerchiadau yn cael eu darlledu trwy blatfformau ar-lein Culture Colony.

Gweler manylion llawn o’r Ŵyl yma.
I brynu tocynnau ar gyfer yr ŵyl ar-lein cliciwch yma.
I brynu tocynnau ar gyfer yr ŵyl mewn person cliciwch yma.

 

Lluniau gan: Dafydd Jones (top chwith), Laura El-Tantawy (gwaelod chwith) and Vanley Burke (dde)

 

RHANNWCH