Cartref digidol diwylliant Cymru.

Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020: Gwobr Driphlyg i Ifan Morgan Jones

Llenyddiaeth

Ifan Morgan Jones, yw enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020 gyda’i nofel, Babel (Y Lolfa).

Cyhoeddwyd y newyddion ar BBC Radio Cymru fel rhan o Ŵyl AmGen BBC Radio Cymru, Radio Cymru 2 a BBC Cymru Fyw. Cyflwynwyd y darllediad arbennig gan Nia Roberts am 12.30 pm dydd Sadwrn 1 Awst 2020, yng nghwmni cynrychiolwyr o’r panel beirniadu, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn.
Fe gyhoeddwyd fod nofel Ifan Morgan Jones wedi dod i’r brig yn y categori ffuglen ar ddydd Gwener 31 Gorffennaf, cyn mynd ymlaen i gipio’r teitl Llyfr y Flwyddyn 2020. Ar yr un rhaglen, cyhoeddwyd mai Babel oedd hefyd yn cipio Gwobr Barn y Bobl Golwg360 eleni; gan olygu fod Ifan yn ennill y driphlyg.
Mae Ifan yn derbyn gwobr ariannol o £4,000 a thlws wedi ei ddylunio a’i greu yn arbennig gan yr artist Angharad Pearce Jones. Bydd hefyd yn derbyn darlun arbennig gan Lily May Rogers, myfyriwr Darlunio o Goleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn rhodd gan Golwg360, noddwyr Gwobr Barn y Bobl eleni.
Mae Babel, sef trydedd nofel Ifan Morgan Jones i oedolion, yn adrodd stori merch sy’n ffoi oddi wrth ei thad ymosodol er mwyn ceisio bod yn newyddiadurwr ar bapur newydd Llais y Bobol. Buan y mae ei menter yn ei harwain ar drywydd diflaniad plant amddifad o slym drwg-enwog Burma, gan ddarganfod cynllun annymunol iawn sy’n ymestyn hyd at arweinwyr crefyddol a pherchnogion y ffatri haearn gyfagos. Dyma’r nofel yn y genre agerstalwm (steampunk) cyntaf erioed yn y Gymraeg.
Mae Ifan Morgan Jones yn ddarlithydd mewn Newyddiaduraeth yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau, Prifysgol Bangor. Daw o Waunfawr yng Ngwynedd yn wreiddiol, ac mae bellach yn byw ym Mhenrhiwllan ger Llandysul. Ef yw golygydd y gwasanaeth newyddion ar-lein, Nation.Cymru. Enillodd ei nofel Igam Ogam Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2008. Darllenwch ragor yma.
Meddai’r cyflwynydd Nia Roberts: “Dwi wedi gwirioneddol fwynhau bod yn rhan o gyhoeddi enillwyr y categorïau a Phrif Enillydd y gystadleuaeth eleni. Nid seremoni fel hon oeddem ni wedi’i disgwyl, yn wir roedd pawb yn edrych ymlaen at ddychwelyd i Aberystwyth ar ôl llwyddiant y llynedd. Ond o orfod addasu a newid y drefn, ‘da ni wedi cael cyfle i roi sylw haeddiannol i’r pedair cyfrol ardderchog sydd wedi cyrraedd y brig. Mae yna newydd-deb a ffresni i’w deimlo eleni am sawl rheswm. Categori newydd ar gyfer Llyfrau Plant a Phobol ifanc, a nofel ffantasi yn mynd â hi (Yr Horwth gan Elidir Jones). Naws ifanc cerddi’r bardd sensitif Caryl Bryn – dwi wrth fy modd efo’i chyfrol Hwn ydy’r llais, tybad? – a’r nofel agerstalwm gyntaf yn y Gymraeg yn cael coron driphlyg o wobrau. Llongyfarchiadau mawr i Ifan Morgan Jones ac yn wir i awduron pob cyfrol ar y rhestrau byrion.”
Caiff y Gwobrau eu beirniadu gan banel annibynnol a benodir yn flynyddol. Yn beirniadu’r llyfrau Cymraeg eleni mae’r newyddiadurwraig a chyn-olygydd BBC Radio Cymru a Cymru Fyw Betsan Powys; y cartwnydd, awdur a chyflwynydd Siôn Tomos Owen; y Prifardd a Phennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, Emyr Lewis; a’r gantores-gyfansoddwraig, Casi Wyn.
Ar ran y panel beirniadu, dywedodd Siôn Tomos Owen: “Braf yw nodi ein bod ni fel beirniaid wedi’n plesio’n fawr gyda phob un o’r cyfrolau ar y rhestr fer eleni. Mae yma ymgeiswyr cryf, sy’n cynnig gwledd i bob darllenydd trwy’i gweithiau amrywiol. Nid hawdd oedd dewis un o blith y pedwar enillydd categori, ond roedd y panel yn gytûn fod Babel, nofel agerstalwm Ifan Morgan Jones – sy’n trafod Cymru gyfoes, hanes ein gwleidyddiaeth a chyflwr ein moesau cymdeithasol trwy ddrych y cyfryngau cenedlaethol – yn llawn haeddu teitl Llyfr y Flwyddyn eleni. Llongyfarchiadau i bob un o’r pedwar enillwyd a’u cyhoeddwyr.”

RHANNWCH