Cartref digidol diwylliant Cymru.

Gwlad y trethi uchel?

Llenyddiaeth

 

Yn sgil y gyllideb, bu cryn glochdar yn y wasg adain dde ynghylch trethi annheg ac afradlonedd honedig y Llywodraeth wrth gynnal y wladwriaeth les. Ar y chwith, parhau wnaeth y galwadau am drethi uwch ar y da eu byd. Yn ôl ein colofnydd, nid yw’r naill safbwynt na’r llall yn arwain at atebion gonest i’n problemau cyllido cyhoeddus.

 

Drannoeth ail gyllideb y Canghellor Rachel Reeves, roedd y wasg adain dde yn tantro yn y ffyrdd rhagweladwy. Yn ôl y Daily Mail, roedd y gyllideb wedi cosbi gweithwyr halen y ddaear – y ‘strivers’ bondigrybwyll – er mwyn cynnal hawddfyd y diog a’r di‑feind trwy ‘benefits handouts’ diddiwedd. Defnyddiodd Andrew Neil ei golofn yn yr un papur i gyhuddo Reeves o esgor ar ‘ddegawd coll’ yn hanes Prydain. Yn wir, roedd gohebwyr y Daily Mail hyd yn oed wedi llwyddo i ganfod storïau oedd yn profi – yn eu tyb hwy o leiaf – fod cynllun y Canghellor i gyflwyno trefniadau treth arbennig ar gyfer tai yn Lloegr sydd werth dros ddwy filiwn o bunnoedd yn gamwri mawr.

 

Ond nid dim ond gan y Mail a’i debyg yr oedd y Canghellor dan y lach. Draw ar wefan y BBC, dewisodd Golygydd Gwleidyddol y gorfforaeth, Chris Mason, gyflwyno’r gyllideb mewn modd a fyddai’n fêl ar fysedd gwrthwynebwyr adain dde’r llywodraeth yn y wasg felen. ‘At the heart of this budget’, fe haerodd, ‘was the chancellor choosing to tax big and spend big.’ Gellir, ac yn wir fe ddylid, herio hyn oll.

 

Pensiynwyr sy’n derbyn y driniaeth fwyaf ffafriol o ddigon gan y wladwriaeth les gyfoes – atynt hwy y cyfeirir hanner y gwariant. Ond hyd yn oed o’u gosod o’r neilltu’n gyfan gwbl, y ffaith amdani yw bod y rhan fwyaf o’r budd‑daliadau hynny a delir i’r sawl sydd o oedran gweithio yn cael eu talu i rai sydd mewn gwaith ac mewn swyddi sy’n gwbl allweddol i gynhaliaeth cymdeithas. Y broblem, wrth gwrs, yw bod eu cyflogau mor isel a’u costau byw mor uchel – yn enwedig cost rhoi to uwch eu pennau – fel nad ydynt, er eu hymdrechion, yn gallu cadw dau ben llinyn ynghyd. Ar ben hynny, y garfan fydd yn elwa fwyaf o benderfyniad pwysicaf cyllideb ddiweddaraf Reeves, sef ei phenderfyniad i godi’r cap dau blentyn ar fudd‑daliadau plant, yw plant sy’n byw mewn tlodi – cymaint â 70,000 ohonynt yng Nghymru yn unig. Halen y ddaear vs. y diog a’r di‑feind, meddai’r Daily Mail. Tybed?

 

A ninnau ar drothwy’r flwyddyn lle byddwn yn cofnodi deng mlynedd ers y refferendwm a esgorodd ar Brexit, tybed hefyd nad oes gwell ymgeisydd am y teitl ‘degawd coll’ na’r un sydd ym meddwl Andrew Neil? Diolch i alanastra Brexit, amcangyfrifir bod £90 biliwn y flwyddyn yn llai o drethi yn cyrraedd y Trysorlys nag a fyddai ar gael i’r Canghellor pe bai’r Deyrnas Unedig wedi parhau’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd. Byddai, byddai’r Gyllideb fis Tachwedd yn wahanol iawn oni bai am y ‘degawd coll’ diwethaf.

 

Mesur sy’n berthnasol i Loegr yn unig ydi’r ‘Mansion Tax’ sydd yn ffasiwn obsesiwn gan y wasg Geidwadol. Mae Llywodraeth Cymru, chwarae teg iddynt, wedi ymddwyn yn gallach na Llywodraeth Lloegr o ran diweddaru’r asesiadau o werth eiddo a threthu eiddo drudfawr. Maent hefyd wedi dangos mwy o barch at freiniau llywodraeth leol yn y maes na’r hyn a fwriedir yn awr gan Rachel Reeves. Ond dichon mai’r pwynt sylfaenol i’w gofio, bob tro y clywir rhefru ynglŷn â drwg‑effeithiau’r trefniadau newydd ar gyfer tai drutaf Lloegr, yw mai pris cyfartalog tŷ yng Nghymru y llynedd oedd £209,000. Serch fod Prydain yn gymdeithas syfrdanol o anghyfartal, problemau honedig y mwyaf breintiedig yn hytrach na’r mwyaf anghenus yw consýrn rhai o’i lleisiau mwyaf dylanwadol.

 

Mae dehongliad Mason yn arwyddocaol oherwydd ei gynnwys yn ogystal â’r ffynhonnell. Rwy’n tybio bod yr haeriad fod Prydain yn wlad trethi uchel wedi gwreiddio i’r fath raddau bellach fel ei fod yn fater o ‘synnwyr cyffredin’ – mae’n rhaid ei fod yn wir! Bydd derbyn imprimatur un o leisiau amlycaf y BBC yn cadarnhau’r dybiaeth honno ymhellach. Ond tra mae Reeves yn ddiau wedi codi trethi a hynny mewn dwy gyllideb o’r bron, nid yw trethi’n uchel ym Mhrydain o gymharu â’r gwledydd hynny yr ydym yn tueddu i gymharu ein hunain â hwy.

 

Mae fy nghyd-weithiwr, yr economegydd gwleidyddol Guto Ifan, wedi paratoi graffeg trawiadol yn arbennig i gylchgrawn BARN sy’n cymharu lefelau treth incwm ym Mhrydain gyda lefelau treth mewn nifer o wledydd, o wledydd Llychlyn ar y naill begwn i’r Unol Daleithiau ar y llall. Yr hyn a ddangosir yw bod gweithiwr yn y DU sydd ag incwm cyfartalog yn cael ei drethu lawer llai nag y byddai yn y rhan fwyaf o wledydd, ond nad oes gan unrhyw wlad arall gynnydd mor serth â’r DU rhwng y lefel gyfartalog honno a beichiau treth y rhai ag incwm canolig ac uwch.

 

Un o’r mythau a anwylir gan y chwith yw bod yna griw o gyfoethogion ym Mhrydain y gellir eu godro er mwyn diwallu’r angen am fuddsoddiad yn ein gwasanaethau cyhoeddus a hynny mewn modd cymharol ddi‑boen. Mae hyn yn amlwg yn nonsens yn y cyd‑destun Cymreig. Dim ond tua 17,000 o bobl trwy’r holl wlad sy’n ennill digon i fod mewn sefyllfa o orfod talu’r raddfa uchaf o dreth, sef 45% ar incwm dros £125,141 y flwyddyn. Hyd yn oed petai pob un ohonynt yn talu 75%, dyweder, yn hytrach na 45%, byddai’r symiau ychwanegol a gesglid megis piso dryw yn y môr yng nghyd‑destun yr angen. A’r gwir plaen amdani yw bod lefelau treth ar y mwyaf goludog yn y wladwriaeth hon eisoes yn debyg iawn i’r hyn a delir gan bobl ag incwm cyffelyb yng ngwledydd mwyaf blaengar Llychlyn.

 

Yr hyn sy’n gwneud Prydain yn wahanol, yn hytrach, yw bod lefelau’r trethi a delir gan bobl ag incwm cyfartalog yn is o lawer na’r lefelau cyffelyb yn rhai o wledydd amlycaf Ewrop. Dyna yn ei dro sy’n egluro’r wireb a glywir yn aml pan mae sylwebwyr difrifol (ysywaeth nid y tabloidaidd Chris Mason) yn trafod polisïau treth a chyllid. Rydym yn disgwyl gwasanaethau cyhoeddus o safon Llychlynnaidd tra ydym yn talu lefelau Americanaidd o dreth. Nid oes angen bod yn economegydd i sylwi ar y broblem…

Petai’r llywodraeth Lafur yn Llundain o ddifri ynghylch ceisio trawsnewid Prydain, dyma fyddai’r man cychwyn ar gyfer eu sgwrs gyda’r cyhoedd yn ogystal â llunio polisïau cyllidol ac economaidd. Byddai unrhyw arweinyddiaeth flaengar sy’n haeddu’r enw yn gwneud yr achos moesol o blaid trethi fel ernes o’n gofal – ai rhy henffasiwn fyddai dweud cariad, dywedwch – tuag at gyd‑ddyn a chymuned. Fe fyddai hefyd yn mynnu trafod y modd y mae Brexit wedi methu’n drychinebus, hyd yn oed ar ei delerau ei hun, ac nad oes gobaith gosod y wladwriaeth yn ôl ar ei thraed heb – fan lleiaf – ailymuno â’r Farchnad Sengl Ewropeaidd.

 

Ond nid gwleidyddion o sylwedd yw’r rhai hynny ar frig y Llywodraeth Brydeinig. Yn hytrach, dyma bobl a ddewisodd ymladd etholiad cyffredinol y llynedd ar sail yr haeriad sylfaenol gamarweiniol y gellid adfer isadeiledd a gwasanaethau cyhoeddus y Deyrnas Unedig yn ddi‑boen – sy’n esbonio’r addewid i beidio â chodi lefelau’r prif drethi. Roedd hyn, cofiwch, er bod pob arolwg barn a gynhaliwyd ar y pryd yn dangos bod etholwyr yn sylweddoli’n burion nad oedd modd osgoi cynyddu trethi.

 

Canlyniad uniongyrchol eu diffyg gonestrwydd cyn Gorffennaf 2024 yw’r ffaith fod Llafur bellach yn codi trethi mewn modd llechwraidd yn hytrach na chyda phwrpas. Mae hyn nid yn unig yn andwyol yn economaidd gan fod trethi uwch ar fusnesau’n annog chwyddiant, sydd yn ei dro’n creu pwysau pellach ar gyllidebau cyrff cyhoeddus ac unigolion. Yn waeth na hynny hyd yn oed, mae’n cadarnhau ymhellach naratif mwyaf dinistriol y dde, sef bod trethi rhywsut neu’i gilydd yn anfoesol yn hytrach nag yn sail unrhyw gymdeithas wâr.

 

Mae eisoes yn amlwg fod diffyg crebwyll ac – o alw pethau wrth eu henw cywir – llwfrdra gwleidyddol Starmer, Reeves a’u cyfeillion wedi afradu’r cyfle hanesyddol a gynigiwyd iddynt lai na deunaw mis yn ôl. Bryd hynny, gyda chrib eu gelynion wedi’i dorri, roedd cyfle gwirioneddol ganddynt i agos cwys newydd ar ôl pymtheg mlynedd sydd wedi gadael cymdeithas ar ei gliniau. Ond oherwydd eu methiannau eu hunain, mae’r cyfle wedi ei golli. Dengys yr ymateb i’r Gyllideb fod gelynion Llafur ar y dde yn ôl yn clochdar ar ben y domen. Draw ar y chwith, mae’r teimlad fod Llafur wedi chwythu ei phlwc yn derfynol ar gynnydd. Mae’n anodd iawn credu y bydd yr arweinyddiaeth bresennol yn dal yn eu swyddi yn ddigon hir i Rachel Reeves gael cyflwyno trydedd Gyllideb.

 

RHANNWCH