Cartref digidol diwylliant Cymru.

Gweminar: Tyfu Gwytnwch Bwyd | Webinar: Growing Food Resilience

No Categories Found

29/11 | 14:00

Cofrestrwch yma!

Sut gall tyfu ein bwyd ein hunain helpu i daclo newid hinsawdd? Beth yw manteision eraill tyfu bwyd yn y gymuned? A sut gall cymunedau ddechrau arni os ydynt eisiau tyfu eu bwyd eu hunain a gwneud yn siŵr eu bod yn garddio yn y ffordd fwyaf ecogyfeillgar posibl?

Ymunwch â ni gyda siaradwyr o Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, Bwyd Bendigedig a’r prosiect Global Gardens i drafod rôl tyfu bwyd cymunedol wrth daclo newid hinsawdd a hybu diogelwch bwyd lleol, yn ogystal â pha gymorth sydd ar gael yng Nghymru i’ch cymuned ddechrau eich prosiectau tyfu bwyd eich hun.

Mae gan sawl un o’n grwpiau a gefnogir gan Egin uchelgeisiau i ddechrau prosiectau tyfu cymunedol, ac mae llawer o’n Mentoriaid Cymheiriaid yn brofiadol mewn gweithio gyda phopeth o erddi ysgol i amaethyddiaeth adfywiol, pantris bwyd i baraddiwylliant – felly rydym yn disgwyl digon o drafodaeth fywiog a cyfleoedd i chi gwrdd â’ch gilydd, rhannu straeon a gofyn cwestiynau!

RHANNWCH