(Daw’r wybodaeth isod o happiful.com)
Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i helpu’ch plentyn i alaru drwy weithio drwy eu hemosiynau, deall beth sydd wedi digwydd ac ymdopi â’u colled.
Er na allwn gael gwared ar y tristwch, fe allwn ni gefnogi plant i fynegi eu hemosiynau.
Ein greddf yw amddiffyn ein plant y gorau y gallwn, ond pan ddaw’n fater o brofedigaeth efallai nad yw eu cysgodi yn bosibl. Bydd 41,000 o blant yn dioddef profedigaeth bob blwyddyn yn y DU, ac yn syfrdanol, bydd 92% o bobl ifanc yn profi colled sylweddol erbyn iddynt gyrraedd 16 oed.
Creu bocs cofio
Gall gweithio gyda’ch gilydd i greu bocs cofio fod yn ffordd wych o gofio’r un yr ydych yn ei garu a chadw trysorau’r person hwnnw’n ddiogel. Byddai modd casglu lluniau, anrhegion, addurniadau neu fementos ynghyd i fynd i mewn i’r bocs. Ar gyfer plant iau, ceisiwch gynnwys lluniau a dynnwyd â llaw neu cofnodwch beth oedd eu hoff atgofion o’r person sydd wedi marw.
Darllenwch gyda’ch gilydd
Gall darllen llyfrau helpu plant i archwilio a deall eu hemosiynau. Gall darllen am golled a galar trwy lygaid cymeriadau eraill a dod i wybod am ddigwyddiadau a sefyllfaoedd mewn amgylchedd sy’n ddiogel fod yn haws i blant adnabod eu teimladau nhw eu hunain. Gall gweithio drwy lyfr gweithgaredd galar neu brofedigaeth fod yn ffordd effeithiol o gael plant i feddwl, siarad neu dynnu lluniau am yr hyn sydd wedi digwydd. Gall llyfrau â lluniau sy’n esbonio marwolaeth mewn ffordd dyner fod yn ffordd o gychwyn sgwrs â nhw am eu teimladau a’u dealltwriaeth o’r sefyllfa.
Anogwch ysgrifennu neu gofnodi
Gall derbyn nad yw rhywun annwyl gyda chi bellach fod yn anodd iawn. Gall siarad yn uchel am eu colled fod yn anodd tu hwnt. Trwy annog ysgrifennu neu gofnodi, ysgrifennu llythyrau, cerddi, tynnu lluniau neu wneud collages, gall plant roi ar bapur yr hyn y gallent ei chael yn anodd mynegi ar lafar. Ar gyfer plant iau, gall gweithio drwy lyfr profedigaeth ddarparu ffordd strwythuredig ac effeithiol o weithio trwy eu meddyliau a’u teimladau.