Cartref digidol diwylliant Cymru.

Gwarchod

No Categories Found

Marged Elen

Maen nhw wedi fy ngadael i am wythnos. Fy nhrystio i bellach i beidio gwneud rhywbeth rhy wirion. Roedd hi’n hen bryd iddyn nhw gael hoe. Ychydig ddyddiau oddi wrth y cwmwl dwi bellach yn ei ymgorffori – yn haul a glaw a storm i gyd yr un pryd. Fis a hanner yn ôl roeddwn i’n meddwl mai neidio oddi ar bont fyddai’r gwyliau gorau iddyn nhw. Anweddu’r cwmwl yn gyfan gwbwl. Ond mi wneith wythnos wrth y môr y tro am rŵan.

Roeddwn i wedi gobeithio y bydden nhw wedi gadael rhestr tw-dw. Ond wn i ddim os ydi nodyn yn gorchymyn ‘Paid â lladd yr ardd. Caru chdi’ yn cyfrif. Maen nhw’n gwybod i beidio disgwyl gormod bellach. Misoedd o bendilio rhwng pob dim a dim byd. Dim saib rhwng y cyflym a’r araf. Y prysur a’r segur.

RHANNWCH