The digital home of Welsh culture.

Gwarchod

No Categories Found

Dwi’n ymlwybro o fwythau’r gwely i lawr y grisiau. Pren y llawr yn bygwth sodro sblintars yn fy sodlau. Ac yna agor y drws cefn. Y ddefod ddyddiol o archwilio’r ardd ers iddyn nhw adael.

Mae blas yr hydref yn y gwynt heddiw.

Coed a thamprwydd melys.

Dydi anadlu ddim yn ddigon. Dwi eisiau llyncu’r aer. Gwydr o dymor newydd.

Dwi’n camu i mewn i’r ardd. Ac i lawr y llwybr igam-ogam.

Mae sioe flynyddol y dail wedi dechrau dan draed. Dwi’n teimlo’r crensian swnllyd sy’n cuddio’r breuder crin. Efallai mai sgrechian ydi’r crensian. Sgrech pob deilen unig wrth i mi sathru’n ddiofal o droednoeth. Ond mi fyddai hynny’n anos i’w dderbyn rywsut. Yn tynnu’r hwyl o’r hydref.

Mae’r dail i gyd fel hen ddwylo. Yn wythiennau a smotiau i gyd. Hen ddwylo wedi methu dal gafael ar goflaid y coed. Mae’n siwr mai lliwiau marwolaeth ydi’r lliwiau sy’n troi’r ardd yn gerdyn post. Achos dydi’r lliw ddim yn para rhyw lawer ar ôl gollwng gafael. Mae’r coch a’r oren a’r melyn a’r piws yn pylu. Fel pili-pala wedi cyffyrddiad croen. Fel petai’r ddaear wedi sugno’r lliw ohoni, wedi llyfu’r sglein oddi arni. Ei gadael i blygu’n ddim.

***

Dwi wedi trio fy ngorau i gynnal yr ardd. Ei chadw fel ag yr oedd hi cyn iddyn nhw fynd. Yn ystod y diwrnodau cyntaf, roedd agor y drws cefn yn straen. Ofn cael cip ar y planhigion a’r blodau yn prysur wylltio. Roeddwn arna’i ofn clywed gwreiddiau’r chwyn yn eu gwthio i lapio’n bigog o gwmpas prydferthwch pin-mewn-papur yr ardd. Yn poeri gwenwyn ar bob owns o ofal roedden nhw wedi ei ddyfrio dros y blodau a’r blagur mân.

Yn raddol bach, dechreuais ddeffro’n sydyn bob bore gyda llygaid llaith clefyd y gwair yn gwingo am gael eu cosi. Croen gwydd fel drain. Ac arogl chwerw’r chwyn yn fy ffroenau.

Dwi’n wan heddiw. Mae’r chwyn yn dechrau cael y gorau arna’i. Cochni coslyd fy llygaid yn drysu’r gwylltni o fy nghwmpas. Dwi’n teimlo gwreiddiau yn gwingo rhwng y blew ar fy nghroen. Ac mae chwerwder y chwyn yn fy meddwi.

Ar ôl baglu fy ffordd i lawr y llwybr, drwy sgrechian swynol y dail, dwi’n estyn am flerwch y cylch o wair yng nghalon yr ardd. Dwi’n edrych i fyny. Y dderwen gam yn ymbarél esgrynog uwch fy mhen. Yna o fy nghwmpas, drwy ddryswch fy llygaid, gallaf adnabod y blodau a’r planhigion i gyd. Y rhosod melyn. Pys pêr. Mynawyd y bugail. Blodau’r haul. Dwi’n clywed eu coesau yn gwegian wrth i’r chwyn dynhau eu gafael. A dwi eisiau dechrau arni eto. Dechrau chwynnu a gofalu…

Bob tro dwi’n teimlo’r ysfa iddyn nhw ddod adref, mae fy nghalon fel cloc larwm. Fy nghorff yn tynhau i gyd. Fel degau o dannau telyn newydd drwy fy nghyhyrau. Pen trwm. Penysgafn. Chwys oer. Pinnau bach ymhob man. A’r ofn fel arwydd hen sinema yn fy mhen.

Dydi’r ardd ddim yn barod.

Dydi hi ddim fel yr oedd hi.

Dydi hi jesd ddim yn barod!

Dwi eisiau i’r byd ddod i stop. Dim ond am ddiwrnod. Hanner hyd yn oed. Ychydig oriau? I mi gael rhoi pethau yn eu lle eto. Rhoi’r ardd yn ôl mewn trefn. Hel yr holl ddail crin. Dofi dannedd y llew. Dallu llygaid y dydd. Rhewi’r dalan poethion. Torri’r gwylltni pigog sy’n sleifio rhwng slabiau’r llwybr. Trin y gwair. Ei lyfnhau yn garped o wyrddni. A rhwygo’r holl betalau bach sy’n bygwth brownio.

Ond dydi’r crino, y sleifio, y pigo, na’r gwywo ddim yn stopio.

***

Dwi’n teimlo fy mysedd yn suddo’n raddol rhwng goglais y glaswellt. Dwi’n eu gwthio’n ddyfnach i’r ddaear. Dechreuaf grafu’r tir. Ei deimlo yn dechrau swatio o dan fy ngwinedd. A dwi’n dal i fynd. Dwi eisiau ffeindio’r gwreiddyn styfnicaf. Mae’r chwyn wedi ennill bob tro hyd yn hyn. Yn nadreddu eu chwerthiniad o amgylch y blodau hyfrytaf.

Ond dwi wedi cael llond bol. Er y poenau rhyfedd sy’n ymestyn o fy llygaid i orchuddio fy nghroen i gyd, fel petawn i’n un hefo gwylltni’r ardd, dwi’n dechrau palu hefo fy nwylo, fy mysedd, fy ngwinedd. Yn wyllt, dwi’n tyllu. Methu stopio. Y tir yn hedfan i bob cyfeiriad. Fel cenllysg mwdlyd. Mae ambell i ddarn yn glanio ar fy ngwefus. Mae chwerwder y blas yn dod â fi yn ôl i’r ardd. A dwi’n brwydro am fy nghwynt. Fy ysgyfaint ar dân.

Dwi’n codi’n araf. Y mwd ar fy mhengliniau a’m dwylo yn sgleinio’n llaith yn haul hwyr yr hydref. Trof oddi wrth yr ardd.

Fydd hi fyth yn barod.

Fyth yr un fath.

Er pob ymdrech i rwygo’r gwenwyn, mae gwreiddiau’r chwyn yn gryfach. Yn gwthio llygaid y dydd i siglo’n annioddefol o angylaidd yn y gwynt.

Camaf yn ôl i mewn i encil y tŷ. Estynnaf ddarn o bapur o flerwch y stydi. Chwilota am feiro yng nghanol cyflafan y drôr-bob-dim yn y gegin. Dychwelaf at y llygaid pryfoclyd sy’n fy annog i sgwennu. I sgriblo pwt o ffarwél, ymddiheuriad, a chariad. Arwyddaf y papur.

Daw chwa o wynt o rywle. Yn rhuban blêr drwy flodau’r ardd. Mynna’r papur ei ddilyn a glanio ymysg y dail. O gilfachau crin y dail, syrthia pryfaid mân dros wynder llinellog y papur. Yn nodau cân i dymor newydd.

SHARE