Cartref digidol diwylliant Cymru.

Gormod o gŵn

Llenyddiaeth

Yn ddiweddar fe gawson ni wyliau bach yn nhref lan môr Whitby yng ngogledd Swydd Efrog. Lle hyfryd a difyr dros ben, er yn llawer prysurach na phan fuon ni yno bymtheg mlynedd yn ôl, a mwy o bobol â chŵn nag ydw i wedi’u gweld mewn un lle erioed.

Yn yr hinsawdd cŵn-garol sydd ohoni, doeddwn i ddim wedi bwriadu sôn am hyn yn fy ngholofn rhag cael fy nhynnu’n griau, ond yna soniodd Nest Gwilym am ei hofn o gŵn ar dudalen Facebook Rhwydwaith Menywod Cymru gan holi, ‘Rhywun arall yn sylwi bod llawer mwy ohonyn nhw?’ A dyna agor y llifddorau wrth i nifer fawr o ferched eraill ddweud eu bod hwythau’n teimlo’r un fath.

Nid ’mod i’n drwglecio cŵn nac yn eu hofni fel y cyfryw, dim ond yn teimlo bod yna lawer gormod ohonyn nhw erbyn hyn. Nid y cŵn eu hunain sydd ar fai, wrth reswm, ond y perchnogion di-feind sy’n mynnu mynd â nhw i bob man, gan gynnwys llefydd prysur, sy’n siŵr o fod yn hunllef i’w synhwyrau.

Mae’r perchnogion hefyd fel petaen nhw’n disgwyl i bawb ddotio at eu hanifeiliaid anwes a naw wfft i unrhyw un sydd ag alergedd neu ffobia, a phrin iawn yn fy mhrofiad i ydi’r perchnogion sy’n cydnabod y gall unrhyw gi droi’n gas.

‘But he’s a lovely dog’ oedd yr ymateb yn amlach na heb wrth i mi geisio egluro wrth bobol fod gan fy mab awtistig eu hofn ers talwm, gan anwybyddu ei orchymyn yntau iddyn nhw roi ‘Lead on dog, now!’

Dyna pam y dylid ailgyflwyno trwyddedau cŵn, oherwydd nid pob perchennog sy’n gyfrifol o bell ffordd. Yn ôl un ddynes ar y Rhwydwaith sydd wedi’i chreithio’n gorfforol ac yn seicolegol ar ôl iddi gael ei brathu’n ei hwyneb, dywedodd y llawfeddyg a fu’n ei thrin ei fod ‘wedi cael llond bol ar bwytho wynebau pobol’ yn sgil ymosodiadau o’r fath.

Yn sicr, bu’n rhaid i mi frathu ’nhafod pan ddangosodd rhywun fideo i mi’n ddiweddar o’i nai bach yn dawnsio, a chi’r teulu (‘ei frawd mawr’, er mwyn tad) yn gwylio pob symudiad. ‘Mae Staffis mor dda efo plant,’ meddai, ond yr hyn oedd yn mynd drwy fy meddwl i oedd y byddai’n o ddrwg ar y bychan petai’n digwydd cythruddo’r ci yn ddamweiniol.

Y gwir amdani ydi bod y duedd i groesawu cŵn wedi mynd yn rhy bell, i’r graddau fod unrhyw un sydd ddim yn gyfforddus â nhw yn cael ei ddiystyru. Mae llawer yn teimlo na ddylen nhw gael mynd i fwytai a gwestai, er enghraifft, a beth bynnag ydi’ch barn chi am Wetherspoons, dwi’n cytuno’n llwyr efo’u polisi ‘dim cŵn heblaw am gŵn tywys’.

Does dim dwywaith amdani y gall y cyfeillion pedair coes fod yn gwmpeini triw. Ond ers y pandemig maen nhw wedi mynd yn bla, a llochesi’n orlawn oherwydd bod pobol wedi penderfynu nad ydyn nhw’n werth y drafferth.

Problem arall, chwedl un perchennog, ydi bod ‘y byd a’i fam wedi cael ci adeg Covid’ ac wedi’u magu i fod yn gŵn ‘mynd i bob man’. O ganlyniad, tydyn nhw ddim yn gwybod sut i fod adref ar eu pennau eu hunain ‘am fwy na pum munud heb greu strach mawr i’r perchnogion, ond eto ddim yn gwybod sut i fod allan mewn byd prysur llawn petha sensori boncyrs chwaith’.

Byddai’n syniad i berchnogion geisio dysgu eu cŵn i aros adref weithiau, meddai. Byddai hynny’n sicr yn fwy ystyriol o bawb yn y pen draw yn hytrach na’r hwrjo hunanol sydd ohoni, ac yn amlwg o’r ymateb a gafwyd i bostiad Nest ar y Rhwydwaith, tydan ni ddim yn gymaint o leiafrif ag y tybiais.

Elin Llwyd Morgan

RHANNWCH